£82m i wella ffordd Blaenau'r Cymoedd
Nod y cynllun yw gwella diogelwch a lleihau amseroedd teithio ar yr A465
Daeth cadarnhad fod £82 miliwn o arian Ewrop wedi ei gymeradwyo ar gyfer gwaith i wella ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465.
Mae hynny'n golygu y gall y gwaith ddechrau ar unwaith ac fe fydd y dywarchen gyntaf yn cael ei thorri ddydd Llun gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, Carl Sargeant AC.
Bydd y gwaith yn golygu lledu'r ffordd rhwng Brynmawr a Thredegar - rhyw 4.9 milltir - i fod yn ffordd ddeuol, gyda'r nod o leihau oedi a gwella diogelwch ar ran o'r ffordd ble mae sawl damwain wedi digwydd.
Fel rhan o'r cynllun bydd llwybrau seiclo ychwanegol yn cael eu darparu hefyd ynghyd â gwelliannau i'r hen A465 er budd y gymuned leol.
'Prif wythïen'Dywedodd Mr Sargeant: "Mae'r A465 yn brif wythïen yn ein rhwydwaith drafnidiaeth, a dyma'r brif ffordd rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr.
"Ond nid mater o wella ffordd yn unig yw hwn.
"Ynghyd â gwella diogelwch a lleihau amseroedd teithio i bobl fusnes a chymudwyr, bydd lledu Ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cyfrannu tuag at adfywiad ehangach i'r rhanbarth.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~15~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Llys: Gwadu ei fod yn bidoffeil
Llwyfan i dalent y sir
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith