Annog pobl i wylio'r drudwyod
Mae gwylio'r adar yn "brofiad bythgofiadwy"
Mae'r RSPB yn annog pobl i wylio un o "uchafbwyntiau'r gaeaf", sef drudwyod yn heidio at ei gilydd.
Wrth iddi dywyllu, mae miloedd o'r adar yn dod at ei gilydd cyn clwydo am y noson.
Ymhlith y llefydd gorau i'w gweld yng Nghymru mae'r pier yn Aberystwyth neu safleoedd yr RSPB yng Nghonwy a Gwlypdiroedd Casnewydd.
Dywedodd Bethan Lloyd, Swyddog Cyfathrebu'r RSPB: "Mae gwylio miloedd o ddrudwyod yn symud ar draws yr awyr yn brofiad bythgofiadwy.
"Mae'n dechrau gyda grwpiau bychan yn raddol ymuno gyda'i gilydd ac yn troi a throelli uwchben, cyn plymio i'w man nythu.
"Mae'n bendant yn un o'r golygfeydd naturiol mwyaf godidog."
40 miliwnYng Nghymru mae nifer y drudwyod wedi gostwng 70% rhwng 1995 a 2010.
Mae ffigyrau'n dangos bod 40 miliwn o ddrudwyod wedi diflannu o'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y DU, ers 1980.
Yn ôl Ms Lloyd: "Mae eu niferoedd yn disgyn yn frawychus.
"Maent i'w gweld yng ngerddi drwy'r wlad ond mae eu gweld nhw'n dod at ei gilydd wrth iddi nosi yn bleser go iawn."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~01~RS~)

Cynnydd goramser: 'Chwalu'r myth'
Datblygiad mewn triniaeth canser
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?