Galw am weld datganoli cyfrifoldeb am adeiladau a chytundebau Remploy

Remploy Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa i gynorthwyo gweithwyr Remploy

Straeon Perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i'r cyfrifoldeb am adeiladau, tir a chytundebau dwy ffatri ola Remploy yng Nghymru gael ei ddatganoli i Gymru er mwyn creu mentrau cymdeithasol ar y safleoedd hynny.

Ddydd Iau fe wnaeth Llywodraeth San Steffan gyhoeddi bod y ddwy ffatri dan fygythiad.

Y ddwy ffatri yw'r rhai yn Y Porth, y Rhondda, a Baglan ger Port Talbot.

Mae dros 140 o weithwyr yno yn wynebu diswyddiadau gorfodol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud y byddan nhw'n darparu cymorth i gynweithwyr.

"Rydan ni wedi sefydlu cronfa i helpu pobl i sicrhau bod gweithwyr anabl yn gallu gweithio yn y dyfodol," meddai Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes.

Effeithiolrwydd

Eisoes mae dros 270 o swyddi Remploy wedi mynd yng Nghymru eleni ar ôl i chwech o safleoedd gau.

Mae'r frwydr i gadw drysau ffatrioedd Remploy yng Nghymru ar agor wedi bod yn un danbaid yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ond mae llywodraeth Prydain yn mynnu bod modd defnyddio'r arian yn fwy effeithiol i gyflogi pobl anabl yn y gweithle.

Dywedodd Alex Morgan sy'n gweithio yn y safle ym Maglan, bod hi'n ddiwrnod trist iawn ar ôl clywed y newyddion ddydd Iau.

"Roedden ni'n erfyn y cyhoeddiad ond wedi meddwl mai ar ôl y Nadolig fyddai'r cyhoeddiad yn dod.

"Doedd 'na ddim rhybudd o gwbl.

"Lan i fis yn ôl roedden ni'n brysur a lot o waith i'w wneud.

"Mae pobl yn becso am y dyfodol, fi moyn profi fy hunan, mond cael y profiad."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.