Defnydd 'anghyson' o ynnau Taser ymhlith heddluoedd

Bwriad y gynnau yw llonyddu'r troseddwyr  Bwriad y gynnau yw llonyddu'r troseddwyr

Straeon Perthnasol

Mae heddluoedd yn amrywio yn eu defnydd o ynnau Taser am eu bod yn dehongli canllawiau mewn ffyrdd gwahanol, yn ôl mudiad hawliau dynol.

Daw sylwadau Amnesty International ar ôl i ffigyrau newydd ddangos bod Heddlu Gwent wedi defnyddio'r gynnau eleni bron ddwywaith cymaint â'r llynedd.

Mae ffigyrau a gasglwyd oddi ar wefannau'r pedwar heddlu yng Nghymru yn dangos bod Heddlu Gwent wedi defnyddio eu gynnau Taser ar gyfartaledd unwaith y pythefnos eleni, sy'n gynnydd o dros 90% ar y 12 mis blaenorol.

Ond mae 'na lai o ddefnydd gan Heddlu Gogledd Cymru, er bod ganddyn nhw'r un nifer o swyddogion wedi eu hyfforddi i ddefnyddio gynau Taser, wrth blismona poblogaeth debyg.

'Testun pryder'

"Pe bai'r heddluoedd yn dehongli'r rheolau'r un ffordd, fe fyddai'r defnydd o ynnau Taser yn gyson," meddai llefarydd ar ran Amnest Rhyngwladol.

"Ond dyw e ddim, sy'n destun pryder."

Yn ôl canllawiau Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, dylid defnyddio gynnau Taser "i reoli a delio â bygythiad", ond bod y penderfyniad i'w defnyddio yn un i "swyddogion unigol".

Ym marn Amnest mae hyn yn rhy amwys ac yn golygu nad yw defnydd o ynnau Taser yn unol â lefelau troseddu.

Yn ôl ffigyrau ar gyfer y llynedd:

  • Heddlu Gwent - Cafwyd 79 trosedd treisgar am bob 1,000 o bobl / Defnyddiwyd gynnau Taser 14 o weithiau
  • Heddlu De Cymru - Cafwyd 73 trosedd treisgar am bob 1,000 o bobl / Defnyddiwyd gynnau Taser 17 o weithiau
  • Heddlu Gogledd Cymru - Cafwyd 62 trosedd treisgar am bob 1,000 o bobl / Defnyddiwyd gynnau Taser 18 o weithiau
  • Heddlu Dyfed Powys - Cafwyd 42 trosedd treisgar am bob 1,000 o bobl / Defnyddiwyd gynnau Taser 9 o weithiau
'Edrych o'r newydd'

Dywedodd Elfyn Llwyd, Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ac aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder, y byddai "budd o edrych o'r newydd ar y rheolau".

Start Quote

Fe ddylai'r heddlu gadw'r defnydd yn isel iawn, iawn”

End Quote Jonathan Edwards Mudiad Liberty

Ychwanegodd ei fod wedi cael gwybod gan uwch swyddog yn yr heddlu mai'r farn gyffredinol yw bod gormod o swyddogion yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio gynnau Taser.

Mae o hefyd yn credu bod 'na ormod o blismyn yng Nghymru yn cario gynnau Taser.

"Mae'r ffigyrrau yn dangos bod 'na efallai gor-ddefnydd o'r arf.

"Mae rhai yn meddwl bod y canllawiau yn rhy eang i'w ddefnyddio.

"Fe fydda i'n codi'r mater gyda Chadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref, Keith Vaz."

Dywedodd Jonthan Edwards ar ran mudiad Liberty bod angen lleihau'r defnydd.

"Mae Taser yn beth ofnadwy os ydach chi'n diodde'r defnydd.

"Mae'r effeithiau yn ddifrifol iawn ac fe ddylai'r heddlu gadw'r defnydd yn isel iawn, iawn."

Ond mae Ffederasiwn yr Heddlu am dreblu nifer y swyddogion sy'n defnyddio gynnau Taser yn y DU.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.