Cyfle i fyw bywyd hen dyddynwr

Andrew Godber Symudodd y tenant olaf allan o Fron Teg yn y 1960au a Than yr Ardd yn y 1980au

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig cyfle i gwpwl ymadael a phrysurdeb y 21ain ganrif a byw fel tyddynwr o'r 1900au.

Fel rhan o brosiect Tirlun Llŷn, mae'r elusen wedi cael arian gan y Loteri i ailwampio dau fwthyn o'r 1870au uwchlaw Porth Neigwl, ger Aberdaron.

Bydd un, Fron Deg, yn amgueddfa er mwyn cynnig cipolwg ar fywyd tyddynwr o'r ardal.

Maent yn bwriadu cael tenantiaid i fyw yn nhyddyn Tan yr Ardd a ffermio'r 12 acer mewn ffyrdd traddodiadol.

Sgiliau

Mae Andy Godber, rheolwr gweithredai i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn credu bod gwarchod dau hen fwthyn o'r fath yn hanfodol i adrodd hanes ardal Llŷn.

"Mae cymaint o hanes ynghlwm â'r bythynnod," meddai.

"Maent yn dangos sut y byddai tyddynwr wedi byw cyn i'r ffermydd mawr cael eu creu, pan roedd bobl yn llawer mwy hunangynhaliol.

"Wrth ailwampio'r bythynnod, roedd yn gyfle i ni ddangos yr hen grefftau, fel pegio to llechi a defnyddio morter calch.

Fron Deg Mae gwirfoddolwyr a staff o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ailwampio’r hen dyddynnod

"Rydym yn gobeithio cyd-weithio gyda Menter Felin Uchaf a'r colegau lleol i ddysgu rhagor o sgiliau o'r fath i bobl ifanc, yn hytrach nag adeiladu gyda briciau trwy'r amser."

Traddodiadol

Mae tyddyn Tan yr Ardd wedi ei insiwleiddio ac efo rhai cyfleusterau modern erbyn hyn. Ond bydd dal disgwyl i'r tenantiaid defnyddio dulliau traddodiadol o dyfu llysiau a chadw anifeiliaid.

"Roedd yna deulu o wyth yn byw yn un o'r tyddynnod ar un adeg, ond nid ydym yn disgwyl hynny tro 'ma!" ychwanegodd Andy Godber.

"Bydd Fron Deg yn cael ei hagor i'r cyhoedd ac ysgolion fel rhyw fath o amgueddfa. Mae'r bwysig bod tenantiaid Tan yr Ardd yn barod i gymryd rhan yn yr ymweliadau ac eisiau cyfrannu tuag at stori'r tyddynwyr."

Mae'r elusen yn gobeithio bydd Fron Deg ar agor i'r cyhoedd erbyn Diwrnod Sant Dewi 2013.

Mae 26 prosiect gwahanol yn rhan o ymgyrch tirlun Llyn, gan gynnwys gwaith i annog ragor o bori gwartheg ar y rhostiroedd er mwyn helpu tyfiant y grug.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.