Remploy: Dwy ffatri dan fygythiad
Mae Remploy yn cyflogi gweithwyr anabl mewn ffatrïoedd
Mae dwy ffatri Remploy, lle mae 140 o bobl yn gweithio, o dan fygythiad.
Cafodd gweithwyr Y Porth yn y Rhondda a Chastell-nedd wybod eu bod yn wynebu diswyddiadau gorfodol.
Ym mis Mawrth cyhoeddodd y llywodraeth y byddai ffatrïoedd yn cau yn Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam ac y byddai'r ffatrïoedd yn Y Porth a Chastell-nedd yn parhau ar agor.
Bydd y ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n cyflogi 46, yn cau ym mis Mawrth 2013.
Mae'r ffatri yng Nghastell-nedd yn rhan o fusnes gelfi ac yn cyflogi 67 o bobl.
Roedd Remploy wedi dweud eu bod yn gobeithio fod gan y ffatri ddyfodol.
Yn Y Porth mae'r ffatri yn ailgylchu cyfarpar cyfrifiadurol ac yn cyflogi 72 o bobl.
189Roedd Remploy wedi dweud na fyddai'n debygol o aros ar agor heb gymhorthdal y llywodraeth.
Caeodd pump o ffatrïoedd - yn Aberdâr, Abertyleri, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam - yn ystod yr haf gyda 189 o bobl yn colli'u gwaith.
Collodd 46 o bobl eu gwaith pan gaeodd y ffatri yng Nghroespenmaen, Sir Caerffili, ym mis Tachwedd.
Cafodd ffatrïoedd Remploy eu sefydlu 66 o flynyddoedd yn ôl.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~13~RS~)

OFCOM yn herio Comisiynydd
Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad
Sir yn croesawu'r Urdd
Dau app Cymraeg
Anrhydeddau'r Orsedd
Delio â dementia