Beirniadu llywodraeth San Steffan am gytundeb llinell West Coast

Trên Virgin Cwmni Virgin yn gyfrifol am wasanaethau trên ar linell y West Coast am bron i ddwy flynedd arall

Mae Llywodraeth San Steffan wedi eu beirniadu yn llym mewn adroddiad i'r broses o ddewis cwmni i redeg gwasanaeth trenau llinell West Coast.

Daeth y broses i ben yn ddisymwth pan ddaeth hi i'r amlwg fod yr Adran Drafnidiaeth wedi gwneud camgymeriadau.

Daeth cadarnhad yn gynharach ddydd Iau mai cwmni Virgin Trains fydd yn cynnal y gwasanaeth am bron i ddwy flynedd eto.

Mae'r llinell yn cysylltu gogledd Cymru, gogledd-orllewin Lloegr a chanoldir Yr Alban â Llundain.

Virgin sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth ers 1997.

Ond ym mis Awst cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth fod cwmni First Group wedi ennill cytundeb newydd fyddai'n para am 13 mlynedd.

Wedi her gyfreithiol gan Virgin, rhoddwyd y gorau i'r broses dendro, ac fe gomisiynwyd y gŵr busnes Sam Laidlaw i gynnal ymchwiliad annibynnol.

Mae ei adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Iau yn dweud bod 'na "broblemau difrifol" a "diffygion annerbyniol".

'Adroddiadau anghywir'

Roedd y camgymeriadau ar gost o o leiaf £40 miliwn.

Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Patrick McLoughlin yn cydnabod bod yr adroddiad yn un damniol, ac y bydd yn rhaid dysgu gwersi pan fydd y broses o ddod o hyd i gwmni i redeg y gwasanaeth yn yr hirdymor yn ail ddechrau.

Fe ychwanegodd bod gweinidogion wedi derbyn adroddiadau anghywir.

Yn y tymor byr, dywedodd Yr Athro Stuart Cole, arbenigwr ar drafnidiaeth, nad oes dim rheswm i deithwyr boeni.

"Ar hyn o bryd fydd pobl ddim yn gweld gwahaniaethau wrth i Virgin barhau â'r gwasanaeth.

"Efallai byddan nhw ddim yn cyflwyno newidiadau - does dim rhaid iddyn nhw - ond fe allen nhw."

Mi fydd y broses o chwilio am gwmni newydd i redeg y gwasanaeth yn ail-ddechrau ymhen dwy flynedd.

Does 'na neb yn cael eu henwi yn yr adroddiad yn ôl gohebydd trafnidiaeth y BBC, Richard Westcott.

Bydd hynny o bosib yn digwydd yn adroddiad Cadeirydd Eurostar, Richard Brown, sy'n cynnal ymchwiliad annibynnol.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.