Llywodraethwyr yn cymryd rheolaeth o Ysgol Cwmcarn

Cwmcarn High School Cafodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn ei chau ar ddydd Gwener Hydref 12

Straeon Perthnasol

Mae llywodraethwyr ysgol gafodd ei chau wedi i weithwyr ddarganfod asbestos yno wedi cymryd rheolaeth ohono.

Cafodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn ei chau ddydd Gwener Hydref 12.

Mae'r disgyblion bellach yn cael eu haddysgu 12 milltir i ffwrdd ar gampws Coleg Gwent yng Nglyn Ebwy ac mae disgwyl i'r trefniant hwn barhau tan ddiwedd y flwyddyn addysgol.

Mae rhieni disgyblion wedi datgan eu pryder ynghylch cau'r ysgol am gyfnod hir ond am fod yr ysgol yn ysgol sylfaenol mae gan y llywodraethwyr yr hawl i'w rheoli.

'Monitro'

Mae Cyngor Caerffili wedi datgan eu "pryder a siom" ynghylch y penderfyniad.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i lywodraethwyr yr ysgol am eu hymateb.

Dywed y cyngor fod ymchwiliad annibynnol ynghylch rheoli asbestos yn yr ysgol yn cael ei gynnal gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac fe fyddai'r ymchwiliad hwnnw'n parhau.

Yn ôl y cyngor byddai'r llywodraethwyr yn awr yn "cymryd cyfrifoldeb llawn ac atebolrwydd ar gyfer y safle" a bod "cynlluniau gan y cyngor i gomisiynu arolwg asbestos trwyadl wedi ei atal gan weithred llywodraethwyr yr ysgol".

Dywedodd arweinydd y cyngor, Harry Andrews: "Ein cyfrifoldeb allweddol yw lles ac addysg y disgyblion ac fe fyddwn ni'n monitro gweithredoedd y llywodraethwyr yn drwyadl.

"Ni fydd y cyngor yn gadael i unrhyw ddisgybl ddychwelyd i adeilad allai achosi peryg i blant."

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, mae lefelau asbestos yn yr ysgol ddeg gwaith yn uwch na'r lefelau derbyniol.

Santia Asbestos Management Limited luniodd yr adroddiad, sy'n casglu fod yr asbestos yn "risg difrifol i iechyd" ac y dylid dymchwel yr adeilad.

Mae gwefan yr ysgol yn cynnwys deiseb sydd wedi cael ei chodi gan grŵp cymorth i rieni yn dweud: "Bydd y ddogfen hon yn cael ei defnyddio i ddeisebu Cyngor Caerffili a Llywodraeth Cymru am gadarnhad na fydd Ysgol Cwmcarn yn cau am byth."

Mae Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn pob ysgol i baratoi adroddiad ar lefelau asbestos yn eu hadeiladau.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.