Tata: Gweithiwr yn yr ysbyty wedi iddo gwympo
Mae gweithiwr wedi ei anafu ar ôl iddo gwympo yn ffatri dur Tata ger Port Talbot.
Roedd y peiriannydd yn gweithio ar ffwrnais rhif pedwar pan gwympodd toc wedi hanner dydd, ddydd Mercher.
Cafodd y dyn, sydd yn ei 40au, ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd.
Y gred yw nad yw ei anafiadau'n rhai difrifol.
Dywedodd llefarydd ar ran Ambiwlans Awyr Cymru fod y dyn wedi dioddef anafiadau i'w ben a'i fod wedi ei gludo i Ysbyty Treforys.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Tata fod cynllun Iechyd a Diogelwch y safle wedi gweithio'n dda.
Ychwanegodd mai diogelwch oedd prif flaenoriaeth y cwmni.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~06~RS~)

Llywodraeth o dan y lach
Bradley'n arwain y daith i Japan
Gwrthod cais
'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'
Achub Y Cyfnod