Achos Ege: Mam yn euog

Sara Ege Roedd Sara Ege wedi gwadu llofruddiaeth

Straeon Perthnasol

Yn Llys y Goron Caerdydd mae mam o Gaerdydd wedi ei chael yn euog o lofruddio ei mab saith oed.

Roedd Sara Ege, 33 oed, wedi gwadu'r cyhuddiad a honni mai ei gŵr gurodd Yaseen Ali Ege i farwolaeth am nad oedd wedi dysgu'r Coran.

Cafwyd ei gŵr 38 oed, Yousef Ali Ege, yn ddieuog o ganiatáu marwolaeth eu mab drwy fethu â'i amddiffyn.

Cafodd Sara Ege hefyd ei chael yn euog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd corff Yaseen Ali Ege ei ddarganfod wedi tân yng nghartre'r teulu yn ardal Treganna, Caerdydd, yn 2010.

Dangosodd archwiliad post mortem ei fod wedi cael ei guro cyn i'w gorff gael ei roi ar dân.

Yn ystod yr achos dangoswyd darn o bren i'r rheithgor a gafodd ei ddefnyddio gan Mrs Ege i daro ei mab "fel tase fe'n gi", yn ôl yr erlyniad.

Rhoddodd Mrs Ege ei dwylo dros ei chlustiau wrth i'r llys glywed recordiad o'r alwad ffôn 999 lle y dywedodd fod tân yn y tŷ a bod ei mab yn dal i fyny'r grisiau.

Cam-drin

Yn wreiddiol, y gred oedd bod y bachgen wedi marw oherwydd damwain drychinebus gafodd ei achosi gan dân.

Ond dangosodd archwiliad post mortem fod y bachgen wedi ei gam-drin yn gorfforol.

Yaseen Ali Ege Bu farw Yaseen Ali Ege ym mis Gorffennaf 2010

Dywedodd yr erlynydd Ian Murphy: "Ar y cychwyn roedd y fam wedi honni bod tân heb esboniad wedi bod.

"Ond o fewn diwrnodau daeth i'r amlwg fod y bachgen yn farw cyn y tân.

"Roedd wedi dioddef anafiadau mawr yn ei stumog."

Clywod y llys fod y fam wedi ei harestio wedi'r archwiliad post mortem a bod deunydd tanio barbeciw ar ei dillad.

Dywedodd Mr Murphy: "Pan gafodd ei holi cyfaddefodd iddi fod yn dreisgar am flwyddyn.

"Sawl gwaith, meddai, roedd wedi ei guro ei gefn â ffon.

"Pan ofynnwyd iddi a oedd wedi ei guro'r diwrnod dan sylw ei hateb oedd: "Dwi'n ei bwnio'n aml. Dwi ddim yn cofio.

"Ni ymdrechodd hi i chwilio am help meddygol ... mae'n amlwg i'r bachgen ddioddef yn ofnadwy."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.