Agor darpariaeth y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe
Lowri Morgan fydd yn agor y gofod dysgu yn swyddogol
Bydd gofod dysgu newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cael ei agor yn swyddogol ym Mhrifysgol Abertawe.
Yno bydd myfyrwyr y Coleg Cymraeg yn cael y cyfle i fod yn rhan o weithgareddau'r coleg ar draws Cymru.
Y gyflwynwraig deledu o Dregŵyr, Lowri Morgan, fydd yn lansio'r gofod dysgu, digwyddiad cyntaf y Coleg yn y Brifysgol.
Mae yno ystafell ddysgu amlbwrpas ar gampws y Brifysgol a fydd yn adnodd defnyddiol i fyfyrwyr ac yn eu galluogi i gymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd mewn gwahanol sefydliadau drwy dechnolegau e-ddysgu.
Yna fe fydd y gyflwynwraig yn cynnal sesiwn 'Ysbrydoli Myfyrwyr' gan gynnig gair o gyngor i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ar sut i gyflawni uchelgeisiau a wynebu rhai o heriau mwyaf bywyd.
DatblygiadauI orffen gweithgareddau'r dydd bydd cyfarfod agored cyntaf fforwm y Gangen yn cael ei gynnal yng nghwmni'r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe a Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bwriad y cyfarfod fydd rhoi cyfle i staff a myfyrwyr y Gangen ddysgu am ddatblygiadau diweddaraf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal â lleisio eu barn am Gangen Prifysgol Abertawe a sefydlwyd y llynedd o dan adain Academi Hywel Teifi.
''Bydd y gofod dysgu newydd yn hwb sylweddol i'r ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn fuddsoddiad gwerth chweil i'r dyfodol," meddai'r Athro Davies.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld myfyrwyr a deiliaid Cynllun Staffio'r Brifysgol yn rhannu syniadau a thrafod y potensial o gydweithio ar draws y disgyblaethau academaidd yn ystod y fforwm."
Mae'r Coleg Cymraeg wedi rhoi arian tuag at sefydlu'r gofod dysgu.
Dywedodd Dr Matthews fod sicrhau mannau dysgu priodol ar gyfer darpariaeth gydweithredol ar draws Cymru yn rhan annatod o gynlluniau'r Coleg i sicrhau addysg o'r radd flaenaf i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg.
"Wrth gydweithio gyda'r sefydliadau, mae'r Coleg eisoes wedi mynd ati i sefydlu gofodau dysgu sy'n cynnwys yr offer fideo-gynadledda diweddaraf i alluogi dysgu darpariaeth gydweithredol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn chwe phrifysgol ar draws Cymru.
"Mae'n bleser gennym felly lansio'r gofod dysgu yng nghangen y Coleg ym Mhrifysgol Abertawe a hyderwn y bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi hwb sylweddol i'r cyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~29~RS~)

'Sylw i Loegr' yn niweidio democratiaeth
Cymraes yw gobaith mawr Prydain
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?