Newid breindaliadau i arwain at fethu darlledu miloedd o ganeuon?
Oherwydd yr anghydfod gallai miloedd o ganeuon beidio â'u clywed ar Radio Cymru
Mae'n bosib y bydd Radio Cymru yn colli'r hawl i chwarae tua 20,000 o ganeuon yn y flwyddyn newydd.
Daw'r datblygiad ar ôl i gannoedd o gyfansoddwyr Cymraeg, sy'n cynnwys Bryn Fôn, Huw Chiswell, Elin Fflur a Dafydd Iwan, dynnu eu hawliau darlledu oddi ar Asiantaeth y PRS.
Maen nhw wedi eu trosglwyddo i Eos, asiantaeth newydd sydd wedi ei chreu i gasglu breindaliadau ar eu rhan, yn uniongyrchol gan ddarlledwyr.
Eos fydd yn gyfrifol am y caneuon o Ionawr 1 2013 ymlaen.
Mae'r BBC ac S4C wedi cael tan hynny i ddod i gytundeb â nhw.
Pum mlynedd yn ôl fe wnaeth breindaliadau'r PRS i gyfansoddwyr Cymraeg ostwng.
'Cadw'r diwydiant'Erbyn hyn mae cerddorion yn gwrthod rhoi trwydded i'r BBC chwarae eu cerddoriaeth oni bai bod y gorfforaeth yn talu breindal gwell.
“Start Quote
End Quote Siân Gwynedd Pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg BBC CymruMae'n hanfodol bwysig i ni fod 'na gytundeb yn dod i'r fei a gobeithio y bydd pawb yn y trafodaethau yn bod yn rhesymol”
"Roedden ni wedi hitio'r wal bron iawn," meddai Dafydd Roberts, Rheolwr Cwmni Sain.
"Roedd pawb wedi colli cymaint o arian.
"Doedd 'na ddim dewis arall, roedd rhaid gwneud rhywbeth i gadw'r diwydiant i fynd."
Ffrae rhwng y PRS a'r cyfansoddwyr ydi hyn.
Yn 2007 fe wnaeth y PRS benderfyniadau bod y breindal o ddefnydd cyhoeddus o ganeuon Cymraeg - yr hyn oedd yn cael eu chwarae mewn tafarndai, clybiau nos, dosbarthiadau aerobic, carioci ac ati - yn rhy uchel.
O ganlyniad fe ddaeth enillon y cyfansoddwyr i lawr yn sylweddol dros gyfnod o dair blynedd, o swm oedd yn cyfateb i £7.50 y funud bob tro yr oedd cân yn cael ei chwarae ar y radio i 50 ceiniog y funud.
Dywedodd Barry Archie Jones, aelod o Celt ac aelod o'r PRS ers yr 1980au, nad oedd yr arian y derbyniodd yn uchel ar y cychwyn.
'Ailedrych'Ond yn y flwyddyn 2000 cafodd daliad annisgwyl.
"Fe wnes i dderbyn cyfriflen bapur ar ôl y taliad mawr cyntaf.
"Pe tawn i'n dewis un o'm caneuon, Un Wennol er enghraifft, balâd fach...dwi ddim yn gwybod y swm oeddwn i'n ei chael ond duda sŵn i'n cael £10 am y flwyddyn.
"Wedyn roeddwn i'n cael £60 am y fersiwn carioci a dwi'n gwybod does 'na ddim fersiwn carioci ohoni a hefyd yn derbyn £100 am iddi gael ei chwarae mewn dosbarthiadau aerobic, a does 'na ddim un ffordd fedri di wneud aerobic i'r gân yna.
“Start Quote
End Quote Barry Archie Jones CerddorRo'n i'n cau fy ngheg a derbyn yr arian fel pawb arall a dyna fu hi tan 2007 tan i PRS ailedrych ar y ffordd o dalu”
"Ro'n i'n cau fy ngheg a derbyn yr arian fel pawb arall a dyna fu hi tan 2007 tan i PRS ailedrych ar y ffordd o dalu."
Yn y cyfamser dywed bod nifer yn cymryd mantais o gyfansoddi a gwneud pres.
"Roeddwn i'n gweld y caneuon ar y radio yn diodde' oherwydd....dim graen iddyn nhw..." ychwanegodd.
Mae colli'r breindaliadau yn sicr wedi cael effaith gan fod Dafydd Roberts yn dweud bod llai o ganeuon wedi eu cyfansoddi yn y pum mlynedd diwethaf.
"Os nad oes 'na ddiwydiant cerdd yn ffynnu yng Nghymru, fydd na ddim deunydd ar gyfer y darlledwyr yn y dyfodol," meddai.
Dydi'r 50c y funud y mae'r PRS yn ei roi bob tro mae cân yn cael ei chwarae ar Radio Cymru ddim yn dderbyniol nac yn gynlaidwy yn ôl cerddorion.
Dywedodd y cerddor Gwilym Morus, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Eos, mi fyddan nhw'n gofalu am fuddiannau cerddorion Cyrmaeg yn well.
Cytundeb"Rhaid cofio nad ydi hyn wedi digwydd o'r blaen ac mai Eos fydd y corff cyntaf i dorri monopoli PRS," meddai.
Mae BBC Cymru yn cydymdeimlo gyda safiad y cerddorion ac yn gobeithio am ateb yn fuan, yn ôl Siân Gwynedd, Pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru.
"O safbwynt Radio Cymru mae cerddoriaeth Gymraeg yn gwbl gwreiddiol ac yn hanfodol ac felly hefyd i'r gwrandawyr.
"Mae'n hanfodol bwysig i ni fod 'na gytundeb yn dod i'r fei a gobeithio y bydd pawb yn y trafodaethau yn bod yn rhesymol ac y bydd 'na gytundeb rhwng y tair ochr."
Mae'r BBC, PRS ac Eos yn dal mewn trafodaethau a does 'na ddim cytundeb am faint o arian fydd yr arian yn cael ei roi na sut y bydd yn cael ei rannu.
Mwy am y stori yma ar Manylu BBC Radio Cymru am 2pm ddydd Mercher.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~47~RS~)

OFCOM yn herio Comisiynydd
Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad
Sir yn croesawu'r Urdd
Dau app Cymraeg
Anrhydeddau'r Orsedd
Delio â dementia