Pobol y Cwm: Prif Weinidog awdurdododd y gwyn
Dywedodd Mr Jones ei fod wedi gweld y rhaglen a'r sgript dan sylw
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud mai fe awdurdododd gais Llywodraeth Cymru i S4C beidio ag ailddarlledu pennod Pobol y Cwm.
Yn y bennod gafodd ei darlledu nos Fercher dywedodd un o'r cymeriadau, Cadno, nad oedd gan Lywodraeth Cymru yr asgwrn cefn i ddifa moch daear.
Roedd y llywodraeth yn honni nad oedd y rhaglen yn dilyn canllawiau golygyddol.
Ond dywedodd S4C fod y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau a chafodd y rhaglen ei hailddarlledu nos Iau.
'Sensro'Cafodd Carwyn Jones ei gyhuddo o geisio "sensro'r" darlledwr yn ystod sesiwn cwestiynau ddydd Mawrth.
Gofynnodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas, a oedd Mr Jones wedi "manteisio ar wasanaeth ar-lein gwych S4C, Clic, a gwylio'r bennod gyfan cyn awdurdodi'r llythyr i ofyn i S4C beidio ag ailddarlledu'r rhaglen.
"A wnaethoch chi wylio'r rhaglen?" gofynnodd Mr Thomas.
Dywedodd Mr Jones ei fod wedi gweld y rhaglen a'r sgript.
"Cafodd llythyr ei ysgrifennu gan swyddogion y wasg ac fe wnes i awdurdodi hyn," meddai.
'Trafod'Dywedodd Mr Jones fod Llywodraeth Cymru yn aros am ymateb BBC Cymru, sy'n cynhyrchu'r opera sebon, S4C a'r rheoleiddiwr darlledu, Ofcom.
"Mae hwn yn ymdrin â mater polisi cyhoeddus y mae angen ei drafod," meddai Mr Jones.
Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ceisio atal rhaglen Gavin and Stacey rhag cael ei darlledu pe bai cymeriadau'r comedi yn torri i lawr ar yr M4.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, fod Mr Jones "yn ... sensro darlledwr cyhoeddus yr un diwrnod gafodd adroddiad Leveson ei gyhoeddi".
~RS~q~RS~~RS~z~RS~59~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Cyhoeddi enw'r milwr gafodd ei ladd
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith