Rhybudd o law a rhew yn y gogledd a'r canolbarth

Ffordd mewn tywydd gaeafol Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai teithwyr gael trafferthion oherwydd tymheredd isel a chawodydd gaeafol fore Mercher

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd o law a rhew yn y gogledd a'r canolbarth.

Yn fras, bydd hyn yn effeithio ar ardaloedd i'r gogledd o linell rhwng Machynlleth a Threfyclo.

Mae'r rhybudd yn dod i rym am 4pm brynhawn Mawrth ac yn dod i ben am hanner dydd ddydd Mercher.

Gallai'r tywydd gwael effeithio ar deithio yn gynnar fore Mercher.

Dywedodd cyflwynydd tywydd Radio Cymru, Rhian Haf: "Mi fydd hi'n troi'n fwy gaeafol yn y pedair awr ar hugain nesa.

"Mae 'na drwch o eira ar Fynyddoedd y Berwyn ac ar dir uchel yn Eryri yn barod.

"Ar ôl cawodydd heddiw, yn y gogledd a'r gorllewin yn bennaf, mae 'na rybudd am rew dan droed o bedwar o'r gloch y pnawn 'ma tan hanner dydd fory oherwydd bydd y ffyrdd a'r palmentydd gwlyb yn rhewi heno wrth iddi droi'n noson gliriach.

"Mi fydd 'na rai cawodydd eira hefyd, yn bennaf ar y bryniau, ac wrth i wynt main chwythu o'r gogledd fory mi fydd 'na dipyn o ias."

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.