Hufenfa De Arfon yn ennill cytundeb gwerth £50m
Adroddiad Sion Tecwyn
Mae Hufenfa De Arfon yng Ngwynedd wedi ennill cytundeb gwerth £50 miliwn gydag un o brif gyflenwyr caws Prydain.
Bydd y cytundeb gyda chwmni Adams Foods yn dechrau ym mis Ionawr.
Oherwydd hynny mae'r hufenfa'n gobeithio adeiladu cyfleusterau cynhyrchu ar gost o £10 miliwn ar eu safle yn Chwilog erbyn 2016.
Mae'r hufenfa yn cyflogi cyfanswm o 110 o weithwyr a hi yw un o gyflogwyr mwyaf Llŷn ac Eifionydd.
'Cytundeb tymor hir'Yn gynharach eleni cyhoeddodd yr hufenfa y byddai'r busnes llaeth yn dod i ben wrth ganolbwyntio ar gynhyrchu caws a chynnyrch llaeth eraill.
Bydd cyflenwi llaeth yn lleol yn cael ei drosglwyddo i gwmni arall ddydd Sul, Rhagfyr 9.
Bydd cyflenwi llaeth yn lleol yn cael ei drosglwyddo i gwmni Cotteswold Dairy ddydd Sul, Rhagfyr 9.
Bydd y cwmni hwnnw'n dal i gyflenwi llaeth Cymreig o dan enw "Llaeth y Ddraig" Hufenfa De Arfon.
Dywedodd Alan Wyn Jones, cyfarwyddwr rheolwr yr hufenfa: "Rydan ni ar ben ein digon yn diogelu'r cytundeb tymor hir ag Adams Foods.
"Mi fydd y cytundeb yn werth £50 miliwn dros dair blynedd ... a chaws Dragon yw brand caws mwyaf poblogaidd Nghymru, yn werth dros £3 miliwn o ran gwerthiant."
Ychwanegodd fod y penderfyniad i ddod â phrosesu llaeth i ben yn anodd.
"Mae hon wedi bod yn rhan fach o'n busnes ond roedd gennym gyfrifoldeb cymdeithasol i'r gymuned leol."
Mae'r hufenfa yn fudiad cydweithredol a chanddo 125 o ffermwyr yn aelodau.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~38~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Damwain awyren: Un wedi marw
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp