Parêd yn Abertawe i groesawu milwyr adre' o Afghanistan

Bataliwn 1af y Cymry Brenhinol yn Wrecsam Mae'r bataliwn wedi bod yn cefnogi gwaith diogelwch ac ailadeiladu yn nhalaith Helmand

Straeon Perthnasol

Mae aelodau o Fataliwn 1af y Cymry Brenhinol wedi gorymdeithio drwy Abertawe i nodi eu bod wedi dod adre' o Afghanistan.

Roedd y digwyddiad ddydd Mawrth hefyd yn coffáu'r Capten Stephen Healey, 29, a'r Corporal Michael John Thacker , 27, a fu farw yn ystod y daith.

Mae'r ddinas hefyd wedi arwyddo cyfamod cymunedol i gefnogi aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd.

Dechreuodd y parêd am 12:00pm o adeilad yr LC ar Ffordd Ystumllwynarth, cyn mynd drwy ganol y ddinas at Neuadd Brangwyn.

'Cefnogaeth'

Meddai Arglwydd Faer Abertawe, Dennis James: "Dyma ddiwrnod hanesyddol i'r ddinas wrth i ni ddathlu'r cysylltiadau gyda'r lluoedd arfog mewn cyfamod newydd.

Start Quote

Roedd yn daith hir a chafodd cymaint ei gyflawni, ond nid heb aberth”

End Quote Is-Gapten Cyrnol Stephen Webb

Mae Bataliwn 1af y Cymry Brenhinol, a ddychwelodd ym mis Hydref wedi taith chwe mis, wedi bod yn cefnogi'r ymgyrch ddiogelwch a'r gwaith ailadeiladu yn nhalaith Helmand.

Bu farw'r Capten Healey ym mis Mai, pan ffrwydrodd ei gerbyd yn nhalaith Helmand.

Roedd y Corporal Thacker ar ei drydydd ymweliad ag Afghanistan, pan gafodd ei saethu tra ar ddyletswydd ar Fehefin 1.

Dywedodd y Prif Swyddog Is-gapten Cyrnol Stephen Webb, sy'n hannu o Abertawe: "Rydym wedi cael cymaint o gefnogaeth gan gymunedau Cymru tra'n bod ni ffwrdd ac mae'r milwyr yn gwerthfawrogi hynny'n arw.

"Mae dod adre' a bod yn rhan o ddigwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle i ni ddweud diolch am y gefnogaeth honno.

"Roedd yn daith hir a chafodd cymaint ei gyflawni, ond nid heb aberth."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.