Pleidlais i gymeradwyo'r gyllideb wedi cytundeb Llafur a Phlaid Cymru
Roedd angen i'r Blaid Lafur gael cytundeb gydag un o'r gwrthbleidiau er mwyn cymeradwyo'r gyllideb
Mae disgwyl y bydd Aelodau Cynulliad yn cymeradwyo cyllideb £15.1 biliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Fe ddaw'r bleidlais yn Y Senedd ddydd Mawrth ar ôl i'r Blaid Lafur ddod i gytundeb gyda Phlaid Cymru.
Mae'r cytundeb yn cynnwys mwy o arian tuag at brentisiaethau a pharc gwyddonol.
Gan mai dim ond 30 o'r 60 o aelodau sydd gan Lafur, mae angen cefnogaeth y gwrthbleidiau i basio'r gyllideb.
Mae'r cytundeb yn golygu bod 'na £20 miliwn ychwanegol wedi ei roi i brentisiaethau ar gyfer rhai rhwng 16 a 24 oed y flwyddyn nesa'.
Mae'r un swm hefyd wedi ei nodi ar gyfer y flwyddyn ganlynol er nad yw hynny'n sicrwydd eto.
Bydd £10 miliwn o wariant cyfalaf wrth gefn dros y ddwy flynedd nesa' ar gyfer parc gwyddonol lle bydd arbenigedd prifysgolion Bangor ac Aberystwyth.
Cynlluniau fforddiadwyAr ôl caniatáu am chwyddiant, mae'r gyllideb o £15.1 biliwn wedi ei thorri o dros 3% o'i chymharu â'r flwyddyn bresennol.
Penderfynodd gweinidogion beidio â gwneud newid mawr i'r gyllideb ar ôl i bwyllgor o ACau fynegi amheuaeth a oedd y cynlluniau yn fforddiadwy.
Yn ôl y pwyllgor cyllid, doedden nhw ddim wedi eu hargyhoeddi y byddai'r Gwasanaeth Iechyd yn llwyddo i gadw o fewn eu cyllideb ac roedd pryder y byddai effeithiau ar adrannau eraill.
Dywedodd gweinidogion eu bod yn deall y pryderon am "gyflwyno agenda uchelgeisiol" ac y bydden nhw'n cadw golwg ar eu cynlluniau.
"Rydym wedi dod i'r canlyniad, ar y cyfan, fod neilltuo'r arian yn gywir fel ein bod yn gallu cyflwyno rhaglen y llywodraeth ac nad oes 'na dystiolaeth lethol sy'n awgrymu newid sylweddol," meddai llefarydd ar ran y pwyllgor.
Dywedodd y Ceidwadwyr fod y cytundeb yn "un rhad" fyddai'n rhoi pwysau ar wasanaethau rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd.
Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol, a wnaeth gytundeb gyda'r Blaid Lafur yn 2001, am fwy o arian ar gyfer addysgu plant o gefndir tlawd.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~57~RS~)

Colli gwasanaethau arbenigol?
Llys yn clywed am gefndir diffynnydd
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith
Cân y babis