Ysgol Gymraeg newydd yn ne Sir Benfro

Roedd y cabinet yn unfrydol o blaid sefydlu ysgol Gymraeg

Related Stories

Mae Cabinet Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yn Ninbych-y-pysgod.

Fe fydd yr ysgol newydd yn agor ar Fedi 1, 2015.

Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell cymeradwyo'r cynllun.

Ar hyn o bryd mae yna ysgol Fabanod ac ysgol Iau yn y dref ac unedau Cymraeg yn y ddwy.

Yn ôl y sir, mae yna 66 o blant llawn amser a 13 o blant rhan amser yn cael addysg Gymraeg ond mae disgwyl i'r nifer gynyddu 85% o fewn pedair blynedd.

Mae cynghorwyr wedi cytuno gydag argymhelliad i uno'r Ysgol Fabanod a'r Ysgol Iau yn y dref.

Bydd yr Ysgol Fabanod yn dod yn gartref i'r ysgol Gymraeg newydd, gyda'r Ysgol Iau presennol yn newid i ddarparu addysg cyfrwng Saesneg i blant rhwng 3-11 oed.

'Dechrau'r daith'

Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd 21% o boblogaeth y sir yn siarad yr iaith er yn hanesyddol roedd y rhan fwyaf yn byw yng ngogledd y sir.

Ar y Post Cyntaf, dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor, Huw George: "Dechrau ar y daith y'n ni heddi ac yn gobeithio yn 2015 y bydd yr ysgol yn agor.

"Felly mae tair blynedd gyda ni nawr i baratoi ac i roi cynlluniau gerbron."

Soniodd hefyd am ei obaith y byddai modd darparu addysg uwchradd Gymraeg yn y dre.

"Ar hyn o bryd mae'r disgyblion yn symud ymlaen i Ysgol y Preseli yng Nghrymych ond mae 'na fwriad gen i a nifer eraill yn y cyngor i sefydlu cangen yn Ninbych-y-pysgod ar gyfer blynyddoedd 7, 8 a 9 ... fel y bydd y rhifau'n codi.

"Gobeithio wedyn y gallwn ni gadarnhau i rieni a'r plant bod ddim eisiau iddyn nhw deithio i'r Preseli ..."

More on This Story

Related Stories

The BBC is not responsible for the content of external Internet sites

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.