Gwobr newydd i artistiaid ifanc

Logo Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru Bydd y gystadleuaeth flynyddol yn agored i bobl ifanc rhwng 17-25 oed

Cyhoeddodd Cyngor Prydeinig Cymru eu bod yn lansio gwobr newydd i artistiaid ifanc er mwyn dod o hyd i sêr y dyfodol.

Dywed y cyngor y bydd gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru yn meithrin talent newydd "ar draws y sectorau creadigol" trwy gynnig llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol i'w gwaith.

Fe fydd mwy o fanylion am y wobr yn cael eu cyhoeddi maes o law, ond eisoes dywedodd y Cyngor y bydd yn agored i artistiaid rhwng 17 a 25 oed.

Mae'r gystadleuaeth yn cwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys peintio, cerflunio ffotograffiaeth, darlunio a ffilm.

'Dathlu talent'

Dywedodd Simon Dauncey, cyfarwyddwr Cyngor Prydeinig Cymru:

"Mae cydnabod a dathlu talent newydd o Gymru mor bwysig, a dyma pam fod y Cyngor wedi creu Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru.

"Drwy'r wobr hon, byddwn yn manteisio ar rwydwaith eang o artistiaid ifanc gorau Cymru ac yn agor drysau i'r rhai mwyaf talentog ddatblygu'n broffesiynol ac yn greadigol wrth wneud cysylltiadau rhyngwladol parhaol a fydd yn llywio eu gwaith am flynyddoedd i ddod.

"Bydd rhoi cyfle i'r artistiaid hyn arddangos eu gwaith, nid dim ond yng Nghymru ond yn rhyngwladol, yn werthfawr iawn iddynt ar y cam hwn o'u gyrfa a'u bywyd, ac rwy'n hynod falch y byddwn yn rhan hanfodol o'r broses o wireddu hynny."

Mae'r Cyngor eisoes yn noddi nifer o ddigwyddiadau celfyddydol yng Nghymru, gan gynnwys Gŵyl y Gelli Gandryll, yn flynyddol.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.