Arddangos tybaco'n anghyfreithlon

Shilff sigarets archfarchnad Bydd rhaid i archfarchnadoedd guddio sigaréts ar y shilffoedd o ddydd Llun

Straeon Perthnasol

Mae arddangos tybaco mewn siopau mawr ac archfarchnadoedd wedi'i wahardd o ddydd Llun ymlaen.

Bydd rhaid cadw sigaréts a chynnyrch ysmygu o dan y cownter ac allan o olwg y cwsmer.

Y bwriad yw atal pobol ifanc rhag dechrau'r arfer.

Mae dirwy o £5,000 neu garchar am hyd at ddwy flynedd yn wynebu'r sawl sy'n torri'r rheolau.

Fe fydd y gwaharddiad yn ymestyn i siopau llai ym mis Ebrill 2015.

Bydd rhaid i rai siopau hefyd arddangos prisiau cynnyrch tybaco ar bapur plaen A3 yn unig, heb luniau neu frandiau.

'Bygythiad clir'

Mae Llywodraeth Cymru am leihau nifer y bobl sy'n ysmygu o 23% i 16% erbyn 2020. Y nod yn y pen draw yw "cymdeithas ddi-fwg", yn ôl y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths.

Dywedodd Ms Griffiths: "Mae ysmygu'n parhau i fod yn fygythiad clir i iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

"Mae tua 20% o ymweliadau â'r Gwasanaeth Iechyd yn ymwneud ag ysmygu, sy'n costio mwy na £1m y diwrnod."

Dywedodd llefarydd ar ran Morrisons fod yr archfarchnad yn cytuno â Chonsortiwm Manwerthu Prydain, a ddisgrifiodd y newid fel un "gwallgof".

Mae llywodraeth Prydain wedi cynnal ymgynghoriad cyn penderfynu a ddylid gorfodi cynhyrchwyr tybaco i ddefnyddio pecynnau plaen yn unig.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.