Cymru 12-14 Awstralia

Cymru v. Awstralia Roedd taclo'r ddau dîm yn gadarn a digyfaddawd

Straeon Perthnasol

Cymru 12-14 Awstralia

Mae gobeithion Cymru o gipio Cwpan y Byd yn 2015 eisoes yn deilchion wedi iddyn nhw golli'r bedwaredd gêm yn olynnol yng nghyfres yr hydref i Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm, a hynny yn y funud olaf.

Pan ddaw'r enwau o'r het ar gyfer grwpiau Cwpan y Byd ddydd Llun, bydd Cymru ymysg y trydydd grŵp o ddetholion, gan olygu y bydd dau dîm o'r wyth uchaf yn yr un grŵp.

Doedd hi ddim yn chwalfa o bell ffordd, ond er hynny fe gollodd Cymru yn erbyn Awstralia am y pedwerydd tro eleni yn dilyn cyfres yr haf yn Awstralia.

Roedd diffyg disgyblaeth yn ffactor pwysig, wrth i Gymru ildio cic ar ôl cic mewn rhannau peryglus o'r cae, a Kurtley Beale yn trosi llawer.

Agored

Roedd y gêm yn fwy agored nag yr oedd y sgôr yn awgrymu, ond er i'r ddau dîm ganfod bylchau yn amddiffyn ei gilydd, doedd yr un cyfle go iawn am gais yn yr hanner cyntaf.

Roedd taclo'r ddau dîm yn gadarn a digyfaddawd.

Daeth tair gôl gosb i Beale, a dwy i Leigh Halfpenny yn yr hanner cyntaf, er i Halfpenny fethu cyfle i unioni'r sgôr eiliadau cyn yr egwyl.

Pan gafodd Halfpenny'r cyfle i wneud yn iawn am hynny wedi 55 munud, fe lwyddodd i'w gwneud hi'n 9-9, ac roedd y dorf yn synhwyro bod gan y Cymry gyfle i wneud eu marc.

Cododd y gobeithion yn uwch pan aeth Cymru ar y blaen wrth i droed Halfpenny gyrraedd y nod unwaith eto.

Tro Beale oedd hi i fethu gyda'i anel wedi 66 munud, gyda Chymru'n cadw'r fantais wrth i'r gêm agosau at ei therfyn.

Ond roedd rhaid aros tan y funud olaf am gais cynta'r gêm, a dyna dorrodd galonau'r Cymry.

Roedd hi'n ymddangos bod tacl wych Halfpenny wedi rhwystro'r perygl, ond fe ddaeth y meddiant yn ôl i Awstralia, ac fe groesodd Beale yn y gornel am y cais.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.