Ocsiwn April yn codi dros £4,000

April Jones a'i mam Coral Mae'r teulu wedi cyhoeddi llun newydd o April gyda'i mam Coral

Straeon Perthnasol

Mae ocsiwn i godi arian i gronfa'r ferch fach bump oed sydd ar goll, April Jones, wedi codi dros £4,000 diolch i roddion gan Catherine Zeta Jones a Bonnie Tyler.

Cododd par o esgidiau Catherine Zeta Jones £410 yn y digwyddiad ym Machynlleth nos Wener.

Bydd yr arian yn mynd i Gronfa April sydd eisoes wedi cyrraedd bron £50,000.

Aeth April ar goll o stryd ger ei chartref yn y dref union ddeufis yn ôl. Cafodd ei gweld am y tro diwethaf ar Hydref 1.

Dywedodd Karen Evans, un o drefnwyr yr ocsiwn elusennol, bod y digwyddiad wedi denu diddordeb ar draws Cymru a thu hwnt, gydag esgidiau Zeta Jones yn mynd i brynwr o'r Rhyl yn Sir Ddinbych.

Fe gafodd siaced arbennig gan y gantores Bonie Tyler hefyd ei gwerthu.

Shoes donated by Catherine Zeta Jones Prynwyd esgidiau Catherine Zeta Jones am £410 gan berson o'r Rhyl, Sir Ddinbych

"Roedd hi'n wych gweld pawb yn dod at ei gilydd yn y dref am y noson," medd Ms Evans.

"Rydym yn hapus iawn gyda fel yr aeth pethau. Rydym wedi codi digon o arian i Gronfa April, a dyna oedd pwrpas y cyfan."

Nos Wener hefyd cafodd seren binc arbennig ei goleuo yn y dref i gofio April.

Mae'r golau yn rhan o oleuadau Nadolig Machynlleth, ond yn wahanol i'r goleuadau eraill, ni fydd seren April yn cael ei diffodd dros nos.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.