Yr AC Ceidwadol Nick Ramsay yn hwyr i gadeirio pwyllgor
Methodd Nick Ramsay gyfarfod pwyllgor arall ym mis Gorffennaf
Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi methu â chyrraedd mewn pryd i gadeirio pwyllgor am yr ail waith mewn pum mis.
Roedd Nick Ramsay awr yn hwyr i gyfarfod o'r pwyllgor menter a busnes yn y Senedd ddydd Iau.
Fe gamodd ei ddirprwy, AC Plaid Cymru Alun Ffred Jones, y gadair yn ei le.
Nid oedd AC Mynwy wedi hysbysu'r pwyllgor o flaen llaw y byddai'n hwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr: "Mae Nick Ramsay yn cydnabod ei ymddangosiad hwyr i'r pwyllgor menter a busnes ac wedi ymddiheuro i bawb.
"Mae ei record bresenoldeb yn y cynulliad ar y cyfan yn deilwng iawn."
Methodd Mr Ramsay gyfarfod pwyllgor arall ym mis Gorffennaf, Dywedodd llefarydd o'i blaid ar y pryd ei fod wedi mynd yn sâl y noson gynt.
Collodd AC Mynwy, sy'n ennill cyflog o £12,420 fel cadeirydd pwyllgor ar ben ei gyflog sylfaenol o £53,852, yr etholiad i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad i Andrew RT Davies yn 2011.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~54~RS~)

Llywodraeth o dan y lach
Bradley'n arwain y daith i Japan
Gwrthod cais
'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'
Achub Y Cyfnod