Cyfle i leisio barn am ffordd £20m
Gobaith y cyngor yw dechrau ar y gwaith yn 2015/16.
Bydd cynlluniau gwerth £20 miliwn i wella'r ffyrdd yn Cross Hands yn cael eu harddangos i'r cyhoedd yn ddiweddarach.
Mae'r arddangosfa yn rhan o ymgynghoriad ar y cynllun gan adran drafnidiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin, ac fe fydd y cynlluniau i'w gweld yn siop y Co-op yn y dref.
Yn ôl y cynlluniau, bydd ffordd newydd dan yr enw Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands yn ymestyn o gyffordd 'ddiemwnt' yr A48 yn Cross Hands i'r A476 yng Ngorslas.
Yn ddiweddar, cafodd yr ardal £13.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i'w ddefnyddio i ddatblygu parc cyflogaeth strategol newydd yn Cross Hands - lle bydd modd cyflogi dros 1,000 o bobl - a'r isadeiledd y gyd-fynd â'r datblygiad.
Tair rhanMae'r cynllun mewn tair rhan, gyda'r rhan gyntaf o'r A48 i Barc Busnes Cross Hands eisoes wedi ei chwblhau.
Bydd yr ail ran yn mynd o'r parc busnes i Ffordd y Llew Du, ond y drydedd rhan ymlaen at Gorslas yw testun yr arddangosfa yn bennaf.
Mae arian o gronfa Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i edrych ar nifer o ffyrdd gwahanol i'r rhan o'r ffordd o Ffordd y Llew Du i Gorslas.
Os daw arian i dalu am y cynllun, gobaith y cyngor yw dechrau ar y gwaith yn 2015/16.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, Kevin Madge, ei fod yn hyderus y byddai nifer dda o bobl yn dod i weld y cynlluniau.
"Mae llawer o yrwyr a thrigolion yn teimlo rhwystredigaeth wrth i'r twf mewn busnes a thai ddatblygu o flaen yr isadeiledd ffyrdd i gefnogi'r twf yna," meddai.
"Mae hwn yn gyfle iddyn nhw gael dweud eu dweud, a cheisio sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn yn gynnar yn y broses gynllunio."
Bydd cynrychiolwyr o ymgynghorwyr y cyngor a staff yr awdurdod ar gael i ateb unrhyw gwestiynau, neu i glywed sylwadau pobl yn yr arddangosfa.
Bydd y cynlluniau i'w gweld yn siop y Co-op yn Cross Hands rhwng 1pm a 9pm ddydd Gwenerm, Tachwedd 30, ac yna rhwng 9am ac 1pm ddydd Sadwrn, Rhagfyr 1.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~10~RS~)

Llywodraeth o dan y lach
Bradley'n arwain y daith i Japan
Gwrthod cais
'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'
Achub Y Cyfnod