Ymchwilio i achosion brech goch
Y gred yw bod cysylltiad gyda phobl fu'n aros mewn canolfan gwyliau
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eu bod yn ymchwilio i achosion y frech goch yn y gorllewin.
Mae pedwar achos wedi eu cadarnhau ac mae 12 achos tebygol yn Abertawe, Port Talbot a Hwlffordd.
Y gred yw bod cysylltiad gyda phobl fu'n aros mewn canolfan gwyliau yn ne orllewin Lloegr fis diwethaf.
Aed â dau o bobl i'r ysbyty ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau.
Mae llythyrau wedi eu hanfon i rieni mewn pump o ysgolion yn rhybuddio rhieni fod y frech goch yn lledu.
Cynhelir sesiynau chwistrellu MMR i ddisgyblion yn ysgol gyfun Pentrehafod, Abertawe ddydd Gwener.
Dywed yr awdurdodau y dylai rhieni disgyblion yn yr ysgolion eraill sicrhau bod plant wedi cael dau ddos o'r MMR.
Pe na bai hynny'n wir yna dylid mynd at y meddyg teulu.
Dywed Dr Jorg Hoffman, ymgynghorydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Byddai cael chwistrelliad MMR wedi osgoi'r rhan fwyaf o'r achosion rydym yn eu hymchwilio. "
Y symptomau cyffredin yw peswch, llygaid yn llosgi a brech sy'n lledu dros y corf dros gyfnod o dri i bedwar diwrnod.
"Mae'r rhan fwyaf yn gwella'n llwyr, ond mae yna bosibilrwydd prin o gymhlethdodau gan gynnwys niwed i'r llygaid, mynd yn fyddar, niwed i'r ymennydd a hyd yn oed marwolaeth," meddai Dr Hoffmann.
Eleni cafodd 61 o achosion o'r frech goch eu cadarnhau rhwng Ionawr a Mehefin eleni.
Mae hynny'n cymharu â 19 achos yn 2011, wyth yn 2010 a 159 yn 2009.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~53~RS~)

Llywodraeth o dan y lach
Llys: 'Esgyrn penglog dynol'
Bradley'n arwain y daith i Japan
Gwrthod cais
'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'
Achub Y Cyfnod