Dynes wedi ei hanafu ar ol ymosodaid ar drên
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 43 oed ar amheuaeth o ymosod ar ddynes ar drên nos Sadwrn.
Dywed yr heddlu fod y ddynes wedi dioddef anafiadau difrifol i'w wyneb.
Maen nhw'n apelio am dystion oedd yn teithio ar y trên 19.43 rhwng Caerdydd ac Abertawe yn dilyn y gêm rygbi rhwng Cymru a Seland Newydd nos Sadwrn.
Aed â'r ddynes i'r ysbyty ar ôl i'r trên gyrraedd Abertawe.
Honnir iddi gael ei dyrnu nifer o weithiau.
Mae'r dyn yn cael ei holi yn y ddalfa.
Dylai unrhyw un wnaeth weld yr ymosodiad honedig gysylltu â Heddlu trafnidiaeth ar 0800 40 50 40 neu taclo'r tacle ar 0800 555 111.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~17~RS~)

OFCOM yn herio Comisiynydd
Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad
Sir yn croesawu'r Urdd
Dau app Cymraeg
Anrhydeddau'r Orsedd
Delio â dementia