Dan Carter wedi cael anaf ac allan o dîm Seland Newydd

Dan Carter

Straeon Perthnasol

Ni fydd y maswr Dan Carter yn chwarae i Seland Newydd wrth i'r Crysau Duon herio Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Mae'r maswr dylanwadol wedi anafu ei ffêr - a bydd ei le yn mynd i Aaron Cruden.

Eisoes ar y daith mae Seland Newydd wedi curo'r Eidal 42-10 a'r Alban 51-22.

Bydd Liam Williams yn ennill ei ail gap i Gymru.

Mae o'n cymryd lle'r asgellwr pwerus Geroge North, sydd wedi anafu ei glun.

Bydd to Stadiwm y Mileniwm ar gau ar gyfer y gêm.

Dyw Cymru heb guro'r Crysau Duon ers 1953.

Bydd yr hyfforddwr Warren Gatland yn ôl wrth y llyw.

Rob Howley sydd wedi bod wrth y llyw am y pum gem ddiwethaf, gyda Chymru yn cael eu curo ym mhob un o'r gemau.

Cymru: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Liam Williams, Rhys Priestland,Mike Phillips; Paul James, Matthew Rees, Aaron Jarvis, Bradley Davies,Luke Charteris, Ryan Jones,Sam Warburton (capten), Toby Faletau.

Eilyddion: Ken Owens, Gethin Jenkins, Scott Andrews, Aaron Shingler, Justin Tipuric, Tavis Knoyle,James Hook, Scott Williams.

Seland Newydd: Israel Dagg, Cory Jane, Conrad Smith, Ma'a Nonu, Julian Savea, Aaron Cruden, Aaron Smith; Tony Woodcock, Andrew Hore, Owen Franks, Luke Romano, Sam Whitelock, Liam Messam, Richie McCaw (capten), Kieran Read.

Eilyddion: Dane Coles, Wyatt Crockett, Charlie Faumuina, Brodie Retallick, Victor Vito, Piri Weepu, Beauden Barrett, Ben Smith.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.