A55: Galw am ymchwiliad

Flooding on the A55 at Bangor, Gwynedd Caewyd rhan o'r A55 ger Bangor am 12 awr ddydd Iau

Straeon Perthnasol

Mae un o Aelodau Cynulliad Gogledd Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad i gyflwr yr A55 wedi i lifogydd gau'r ffordd am 12 awr ddydd Iau.

Bu'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng cyffordd 12 (Tal-y-bont) a chyffordd 11 (Bangor) o ddechrau'r prynhawn tan i un lon i'r ddau gyfeiriad ailagor am 2:45am fore Gwener.

Ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Gwener, dywedodd Aled Roberts - AC Democratiaid Rhyddfrydol y rhanbarth - bod angen asesu a chywiro unrhyw broblem.

Yr A55 yw prif ffordd gogledd Cymru, a dydd Iau oedd yr eildro o fewn ychydig fisoedd iddi gael ei chau yn yr un ardal.

Gwrthdrawiad oedd y rheswm y tro cyntaf cyn i lifogydd ddydd Iau achosi'r un peth eto. Ar y ddau achlysur, roedd trafnidiaeth yn ninas Bangor a'r cyffiniau ar stop yn llwyr, ac mae hynny wedi codi gwrychyn llawer.

'Problem ers 1994'

Start Quote

Mae'n shambles a deud y gwir. Mae pawb yn trio rhoi'r bai ar ei gilydd, ond ni sy'n talu'r trethi a ni sy'n diodde' bob tro, ac mae'n hen bryd i rywbeth gael ei wneud”

End Quote Gareth Jones Cyngor Plwy' Llanfairfechan

Mae'r ffermwr Gareth Jones yn byw ger Llanfairfechan, ac mae ei blant yn mynd i'r ysgol ym Mangor.

Dywedodd yntau ar Taro'r Post bod ei ferch wedi gorfod treulio noson gyda pherthynas ym Mangor, a bod y teulu wedi gorfod cysgu ar wahân.

Er bod Aled Roberts yn derbyn bod yr amgylchiadau ddydd Iau yn eithriadol, roedd yn pwysleisio mai dyma'r rhan hynaf o holl ffordd yr A55, a'i bod yn bryd i Lywodraeth Cymru asesu'r sefylla er mwyn gweld os oes modd gwneud rhywbeth i wella'r sefyllfa pe bai'r un peth yn digwydd eto yn y dyfodol.

Roedd Gareth Jones, sydd hefyd yn aelod o gyngor plwyf Llanfairfechan, yn llawer mwy beirniadol o'r Asiantaeth Briffyrdd.

Dywedodd: "Rydym yn gwybod fod yna broblem ar y rhan yma o'r A55 ers 1994. Fe ddywedodd yr asiantaeth bryd hynny bod angen gwario £20 miliwn, ond does dim byd wedi cael ei wneud.

"Mae'n shambles a deud y gwir. Mae pawb yn trio rhoi'r bai ar ei gilydd, ond ni sy'n talu'r trethi a ni sy'n diodde' bob tro, ac mae'n hen bryd i rywbeth gael ei wneud."

'Anymarferol'

Pan gaewyd yr A55 ym mis Awst wedi i lori droi drosodd ger Abergwyngregyn, sydd ddim yn bell o Lanfairfechan, gwrthododd Llywodraeth Cymru alwad i ledu'r ffordd yn yr ardal gan ddweud y byddai hynny'n "anymarferol".

Dywedodd llefarydd ar y pryd: "Byddai lledu'r ffordd yn golygu prynu tir ac fe fyddai'n gostus dros ben. O ystyried hynny yn yr hinsawdd economaidd anodd presennol, nid yw hynny'n cael ei ystyried yn ddewis posibl."

Ond yna ym mis Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth Carl Sargeant y byddai'n rhoi £25 miliwn i wella'r A55 yn ardal twnnel Conwy cwta ddeng milltir ffwrdd er mwyn gwella hyblygrwydd y ffordd pan mae argyfwng yn digwydd yno.

Cyfaddefodd Mr Sargeant bod yr A55 yn "rhan hanfodol o'r rhwydwaith drafnidiaeth yng ngogledd Cymru".

Ymateb

Wrth ymateb i alwad Mr Roberts ddydd Gwener, dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Mae'r Gweinidog wedi gofyn i swyddogion adolygu'r holl faterion sy'n ymwneud â digwyddiadau ddoe.

"Mae hefyd wedi gofyn iddynt ymchwilio ar frys i weld a fyddai gwell system ddraenio ar y rhan arbennig yma o'r A55 wedi gallu atal beth ddigwyddodd ddoe rhag digwydd eto yn y dyfodol.

"Mae yna gynlluniau wedi eu cytuno o flaen llaw ynglŷn â lle fydd y traffig yn cael ei ddargyfeirio a sut fydd y wybodaeth ddiweddara yn cael ei chyfathrebu i'r cyhoedd pan fydd digwyddiadau difrifol fel hyn yn digwydd.

"Fodd bynnag, roedd llifogydd ddoe yn ddigwyddiadau eithafol, ac roedd hi'n anodd iawn osgoi'r hyn a ddigwyddodd.

"Fel gyda phob digwyddiad o'r fath sydd yn achosi gymaint o drafferthion i'r rhwydwaith, fe fyddwn yn ymchwilio yn fanwl i weld pa wersi sydd i'w dysgu."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.