Y Crysau Duon yn enwi eu 15 cryfaf i wynebu Cymru
Bydd Dan Carter yn dychwelyd fel rhif 10 i'r Crysau Duon
Mae Seland Newydd wedi cyhoeddi saith newid o'r tîm a gurodd Yr Eidal 42-10 ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Mae'r capten Richie McCaw a'r maswr Dan Carter ymhlith y newidiadau wrth i'r Crysau Duon enwi eu tîm cryfaf.
Cafodd McCaw ei adael allan o'r tîm wythnos yn ôl, ac fe ddechreuodd Carter ar y fainc.
Mae'r cefnwr Israel Dagg, yr asgellwr Corey Jane a'r prop Owen Franks hefyd yn dychwelyd i'r tîm.
Andrew Hore yw'r dewis fel bachwr oherwydd anaf i Keven Mealamu, ond mae'r asgellwr Julian Savea yn cadw'i le wedi ei ddau gais yn y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Yr Eidal a'r Alban.
Y CHWE GÊM DDIWETHAF
- Tach.2010: Cymru 25-37 SN
- Meh.2010: SN 29-10 Cymru
- Meh.2010: SN 42-9 Cymru
- Tach.2009: Cymru 12-19 SN
- Tach.2008: Cymru 9-29 SN
- Tach.2006: Cymru 10-45 SN
Dywedodd hyfforddwr Seland Newydd, a chyn hyfforddwr Cymru, Steve Hansen, ei fod yn disgwyl gêm galed.
"Rydym yn sylweddoli ers Cwpan y Byd mai hon fyddai'r gêm y bydd Cymru'n ei thargedu yng nghyfres yr hydref.
"Ni fydd perfformiadau na chanlyniadau diweddar yn cael unrhyw effaith ar y gêm yma."
Mae Cymru wedi colli eu pum gêm ddiwethaf, a dydyn nhw heb guro Seland Newydd ers 1953.
Mae'n debyg felly bod dewis y tîm cryfaf yn arwydd o barch Hansen at Gymru, ac at Warren Gatland sy'n ailafael yn yr awenau fel hyfforddwr Cymru ar gyfer dau brawf olaf cyfres yr hydref.
Dyw Seland Newydd, ar y llaw arall, heb golli ers 19 gêm ers i Awstralia eu curo nhw yn Brisbane y llynedd.
Tîm Seland Newydd v. Cymru: Stadiwm y Mileniwm; Dydd Sadwrn, Tachwedd 24, 5:15pm.
Olwyr:
15. Israel Dagg;
14. Cory Jane; 13. Conrad Smith; 12. Ma'a Nonu; 11. Julian Savea;
10. Dan Carter; 9. Aaron Smith;
Blaenwyr:
1. Tony Woodcock; 2. Andrew Hore; 3. Owen Franks;
4. Luke Romano; 5. Sam Whitelock;
6. Liam Messam; 8. Kieran Read; 7. Richie McCaw (capten).
Eilyddion: Dane Coles, Wyatt Crockett, Charlie Faumuina, Brodie Retallick, Victor Vito, Piri Weepu, Aaron Cruden, Ben Smith.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~59~RS~)

OFCOM yn herio Comisiynydd
Elusen: 'Mwy o ddigwyddiadau'
Sir yn croesawu'r Urdd
Dosbarth ei hun
Dau app Cymraeg
Siwrne olaf