Ymateb gwleidyddol i Adroddiad Silk

Arian Croeso gan y pleidiau i argymhellion Adroddiad Silk ar godi trethi

Straeon Perthnasol

Mae adroddiad Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, a gyhoeddwyd ddydd Llun, yn dweud y byddai datganoli pwerau trethu a benthyca i Gymru yn rhoi grym i'r etholwyr a Llywodraeth Cymru.

Bydd hefyd yn cynyddu cyfrifoldeb.

Cafodd y comisiwn ei sefydlu gan y cyn-Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.

Y nod, o dan yr arweiniad cyn-glerc y Cynulliad Cenedlaethol Paul Silk, oedd ystyried a ddylai gweinidogion Cymru fod yn fwy atebol am yr arian y maen nhw'n ei wario.

Wrth ymateb i'r adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Llun, Grym a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i gryfhau Cymru, dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Cymru, y bydd y llywodraeth yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb yn llawn yn ddiweddarach.

"Dwi'n ddiolchgar iawn i Paul Silk a'r comisiwn am eu gwaith caled.

"Maen nhw wedi casglu barn o bob cwr o Gymru ac wedi sicrhau bod yr argymhellion yn rhai unfrydol o fewn y comisiwn a oedd yn cynrychioli'r pedair prif blaid yn y Cynulliad."

'Newidiadau cynhwysfawr'

Ychwanegodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, eu bod yn "edrych ymlaen at adolygu'r argymhellion"

"Fe fyddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r holl bleidiau yn y Cynulliad i gyflwyno canlyniad uchelgeisiol sy'n ateb anghenion pobl Cymru orau."

Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru hefyd wedi croesawu'r adroddiad sy'n "argymell newidiadau cynhwysfawr".

Paul Silk Adroddiad Comisiwn Silk yn argymhell y dylai llywodraeth Cymru fod gyda'r grym i godi neu ostwng treth incwm

"Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys argymhellion hynod bwysig y mae cynrychiolwyr y pedair plaid wleidyddol wedi gallu cytuno arnynt, ac sy'n cyd-fynd yn dda â'n safbwyntiau ni ynghylch trywydd y diwygiadau ariannol i'r dyfodol.

"Rwy'n arbennig o falch o weld bod y Comisiwn wedi cefnogi datganoli pwerau benthyca er mwyn helpu i ariannu buddsoddiadau - mae hynny'n hanfodol er mwyn rhoi'r arfau i ni i hybu economi Cymru.

"Rwyf wedi dadlau ers tro y byddai'n rhaid cynnal refferendwm cyn i'r pwerau i amrywio cyfraddau treth incwm gael eu datganoli, ac rwy'n falch o weld bod y Comisiwn yn rhannu'r safbwynt hwnnw.

"Byddwn yn edrych yn ofalus ar y cynigion i symud i gyfeiriad datganoli rhai pwerau treth incwm - ar yr amod mai pobl Cymru fyddai â'r gair olaf."

Dywedodd Paul Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar Gyllid yn y Cynulliad, eu bod yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod a rhywfaint o gyfrifoldeb am godi peth o'r arian sy'n cael ei wario ganddyn nhw a bod yn atebol i bobl Cymru.

"Fe fydd datganoli peth pwerau trethu a'r gallu i fenthyca yn rhoi mwy o rym i'r llywodraeth a gwneud Cymru yn fwy o atyniad i fusnesau."

'Gwella bywydau'r Cymry'

RHAI O'R ARGYMHELLION

  • Dylid datganoli treth tirlenwi, treth stamp ar dir, a'r ardoll agregau, a dylid datblygu ardrethi busnes yn llawn;
  • Dylai Toll Teithwyr Awyr gael ei datganoli ar gyfer teithiau awyr pell i gychwyn, gan ddatganoli'r doll yn llawn yn y dyfodol o bosibl;
  • Dylai Llywodraeth Cymru gael rhagor o bwerau i gyflwyno ardollau sy'n dilyn blaenoriaethau Cymru.

Dywedodd Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bod gweledigaeth ei phlaid ar gyfer datganoli yn cynnwys sicrhau bod gan y Cynulliad amrywiaeth o bwerau i wella bywydau pobl Cymru.

"Rydym yn falch o weld cynnwys yr adroddiad sy'n rhoi cefnogaeth i'r syniad o godi trethi.

"Mae'n allweddol nawr bod llywodraethau Cymru a San Steffan yn gweithio'n gyflym i weithredu'r argymhellion."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion ariannol, Ieuan Wyn Jones, eu bod yn falch bod y comisiwn wedi argymell trosglwyddo cyfrifoldeb pwerau rhai trethi i Gymru.

"Cred Plaid Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru gael pwerau dros drethi, megis treth incwm a threthi busnes, gan gynnwys hefyd dreth gorfforaeth, fel y gallwn dyfu ein heconomi a chreu mwy o swyddi.

"Ar hyn o bryd, does gennym ni ddim neu fawr ddim lle i symud y tu mewn i gyfyngiadau'r grant bloc.

"Rydym yn falch fod Comisiwn Silk wedi argymell trosglwyddo cyfrifoldeb dros rai pwerau treth incwm i Lywodraeth Cymru.

"Mae Plaid Cymru yn awyddus i weithio ochr yn ochr â phleidiau eraill a chymdeithas sifil yng Nghymru i roi mwy o lais i Lywodraeth Cymru a mwy o gyfrifoldeb i gyflawni dros Gymru."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.