Masnachu pobl: Cynghorau'n torri rheolau?

Llun pelydr-X o bobl yn cael eu cludo i'r wlad yn anghyfreithlon Mae masnachu pobl yn broblem sydd ar gynnydd, medd elusennau

Straeon Perthnasol

Gall mwyafrif cynghorau Cymru fod yn torri rheolau Ewrop a'r Cenhedloedd Unedig a luniwyd er mwyn amddiffyn dioddefwyr masnachu pobl.

Mae nifer o adroddiadau diweddar yn awgrymu bod masnachu pobl ar gynnydd ar draws Cymru, ac yn rhan o fusnes byd eang gwerth amcangyfrif o £20 biliwn y flwyddyn.

Mae argymhellion un adroddiad gan grŵp SOLACE yn 2009 yn dweud y dylai awdurdodau lleol "geisio darparu cyngor i ddarpar ddioddefwyr mewn dull rhagweithiol drwy chwilio amdanynt yn y gweithle neu yn y cartref".

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod "angen arweiniad lleol effeithiol i edrych ar oblygiadau troseddu yn lleol, ac i sicrhau bod gan y cyngor ddull cynhwysfawr i gynorthwyo dioddefwyr ac i rwystro mwy o fasnachu pobl".

Start Quote

Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy, mae angen i awdurdodau cyhoeddus wneud mwy.......”

End Quote Mike Lewis Cyngor Ffoaduriaid Cymru
Llai na chwarter

Er hynny mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi dangos mai dim ond pedwar o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd â pholisïau penodol i edrych ar fasnachu pobl.

Oherwydd hynny'n rhannol, fe ddywed elusennau yn y maes bod nifer fawr o'r achosion yng Nghymru ddim yn cael eu hadrodd.

Dywedodd Mwenya Chimba o elusen BAWSO sy'n gweithio gyda dioddefwyr masnachu pobl: "Mae'n digwydd ar draws y wlad.

"Rydym wedi clywed am achosion yn ne Cymru, rhai yn y gogledd ac rydym wedi darllen am eraill yn y gorllewin.

"Os nad yw awdurdodau lleol yn cydnabod masnachu pobl fel problem yn eu hardal nhw, mae'n bosib bod dioddefwyr yn cael eu hanwybyddu, ac felly ddim yn derbyn y gefnogaeth y maen nhw eu hangen."

Mae adroddiad arall fydd yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru yn dweud y dylai "awdurdodau lleol gael swyddog i ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth i ymarferwyr ar draws yr ardal am fasnachu pobl".

Dangosodd ymchwil BBC Cymru mai dim ond tri awdurdod sydd wedi gwneud hyn.

Esiampl dda

Dros y blynyddoedd diweddar, mae Cymru wedi cael ei gweld fel esiampl o ymarfer da yn y maes. Yn 2010 fe benododd Llywodraeth Cymru Gydlynydd Masnachu Pobl Cymru Gyfan - yr unig swydd o'i math yn y DU.

Ond ar hyn o bryd mae'r swydd yn wag wedi i Bob Toobey adael y swydd dros yr haf, ac mae elusennau yn galw am ei olynydd i fod yn ymgeisydd annibynnol.

Dywedodd prif weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Mike Lewis: "Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy, mae angen i awdurdodau cyhoeddus wneud mwy ac mae angen rhywun felly sydd ddim yn rhan o'r systemau yna.

"Nid yw'n broblem y gall Cymru anwybyddu, oherwydd mae'n mynd yn waeth ac nid yn gwella."

Caergybi
Porthladd Caergybi Mae rhai ar Ynys Môn yn bryderus bod porthladd Caergybi'n cael ei ddefnyddio i fasnachu pobl a'u symud ar draws y DU

Ar Ynys Môn, mae ymgyrchwyr lleol yn bryderus bod porthladd Caergybi yn cael ei ddefnyddio i ddod â dioddefwyr masnach pobl i mewn i Gymru, ac ymlaen i weddill y DU.

Dywedodd Gwenda Parry o'r elusen Soroptimists: "Mae gan borthladd Caergybi gysylltiadau gydag Iwerddon a'r Alban, ac mae ganddyn nhw gysylltiadau gyda gwledydd eraill felly mae'n treiddio i mewn i'r ynys ac ymlaen o'r ynys i weddill y DU.

"Dydw i ddim yn credu bod unrhyw un o'r awdurdodau yn gwneud digon ar hyn o bryd i daclo'r broblem."

Ond dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Does dim tystiolaeth bod mwy o risg o fasnachu pobl yng Nghaergybi nag unrhyw borthladd arall.

"Mae ein staff rheng flaen, gan gynnwys ein Swyddogion Ffiniau yng Nghaergybi, wedi eu hyfforddi i adnabod arwyddion o fasnachu pobl ac yn chwarae rôl hanfodol yn ei atal.

"Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r heddlu, awdurdodau lleol a sefydliadau o'r sector gwirfoddol i rannu arbenigedd yn y frwydr yn erbyn masnachu pobl."

Ymateb

Yn ei ymateb i BBC Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

"Er nad yr awdurdodau lleol sy'n arwain wrth geisio atal masnachu pobl yng Nghymru, fe allan nhw chwarae rôl bwysig wrth adnabod dioddefwyr yn lleol a'u cefnogi.

"Mae ymwybyddiaeth o fasnachu pobl wedi cynyddu ers Confensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl yn 2009. Mae llywodraeth leol yng Nghymru nawr yn cynnwys yr ymwybyddiaeth yma i'w polisïau a phrosesau presennol.

"Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd o ofal i ddioddefwyr yn eu hardal nhw, ac fe fydd llywodraeth leol yng Nghymru yn parhau i weithio gyda sefydliadau eraill i wella'u hymateb i'r heriau cymhleth a ddaw o fasnachu pobl gyda'r bwriad o ddarparu'r gofal, cefnogaeth a gwarchodaeth orau posib i ddioddefwyr yng Nghymru."

Fe fydd Cynhadledd Masnachu Pobl yng Nghymru yn cael ei chynnal gan elusen BAWSO yng Nghaerdydd ar Dachwedd 21.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.