Llys: Cyhuddo mam o daro ei mab "fel tase fe'n gi"

Yaseen Ali Ege Bu farw Yaseen Ali Ege o'i anafiadau yn 2010

Mae rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd wedi clywed i fam lofruddio ei mab 7 oed ar ôl ei gam-drin am fisoedd a'i fwrw "fel pe bai fe'n gi".

Mae Sara Ege, sy'n 32 oed, hefyd wedi ei chyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ar ôl cynnau tân yng nghartref y teulu yn Nhreganna.

Cafodd corff Yaseen Ali ei ddarganfod yn farw yn dilyn y tân yn y brifddinas fis Gorffennaf 2010.

Mae ei dad Yousuf Ali Ege, 38 oed, yn gwadu caniatáu ei farwolaeth drwy fethu â'i warchod.

Wylodd y ddau'n dawel wrth i'r erlynydd Ian Murphy QC esbonio cefndir yr achos llys.

Dangoswyd darn o bren i'r rheithgor a gafodd ei ddefnyddio gan Mrs Ege i daro ei mab "fel tase fe'n gi", yn ôl yr erlyniad

Rhoddodd Mrs Ege ei dwylo dros ei chlustiau wrth i'r llys glywed recordiad o'r alwad ffôn 999 lle y dywedodd fod tân yn y tŷ a bod ei mab yn dal i fyny'r grisiau.

Mae'r achos yn parhau.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.