Etholiad: Ailgyfrif pledleisiau

Allan Pennington (ch) a Paul Penlington (dde) Derbyniodd Allan Pennington (chwith) bleidleisiau a oedd i fod i Paul Penlington, yr ymgeisydd Llafur

Bydd etholwyr Prestatyn yn cael clywed ddydd Llun pwy yw un o'u cynghorwyr sir yn dilyn ailgyfrif yn yr Uchel Lys.

Cafodd y canlyniad gwreiddiol yn ward y gogledd ei ddileu oherwydd camgymeriad wrth gyfrif y pleidleisiau.

Ym mis Mai fe gyhoeddwyd fod y Ceidwadwr Allan Pennington wedi sicrhau 580 o bleidleisiau, gyda Paul Penlington o'r blaid Lafur yn sicrhau 366.

Llafur enillodd y ddwy sedd arall yn y ward.

Ond yn ddiweddarach daeth i'r amlwg fod rhai o bleidleisiau Mr Penlington wedi eu camgyfrif, a'u cyfrif fel pleidleisiau i Mr Pennington.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych mai camgymeriad dynol arweiniodd at y sefyllfa yn ward gogledd Prestatyn.

Cafodd yr ailgyfrif ei gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain.

Mwy Am y Stori Hon

ETHOLIAD 2012

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.