Apêl am dystion wedi damwain ffordd
Cafodd dau o bobl eu lladd wedi'r ddamwain ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd
Mae'r heddlu yn annog llygad-dystion i gysylltu â nhw wrth iddynt barhau i ymchwilio i ddamwain a laddodd ddau o bobl.
Roedd car Peugeot 106 wedi taro yn erbyn dau feic modur ar ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yn Sir Fynwy.
Cafodd y ffordd ger Clydach, rhwng Gilwern a Brynmawr, ei chau yn dilyn y digwyddiad am 12:35pm ddydd Sadwrn.
Roedd un o'r beicwyr modur wedi marw yn y fan a'r lle a bu farw gyrrwr y Peugeot yn yr ysbyty ddydd Sul ar ôl cael ei gludo yno mewn hofrennydd.
Mae'r beiciwr modur arall yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty. Roedd teithiwr yn y car hefyd wedi cael man anafiadau.
Nawr mae Heddlu Gwent yn "apelio'n benodol" am lygad-dystion, gan eu bod yn gwybod bod nifer o bobl oedd yn yr ardal adeg y ddamwain ddim wedi siarad â swyddogion eto.
"Rydym yn annog y bobl hyn i ddod aton ni gan y gallan nhw fod â gwybodaeth hollbwysig mewn perthynas ag achos y gwrthdrawiad," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Roedd y car Peugeot melyn yn teithio tuag at gyfeiriad Brynmawr ac roedd y beic modur Yamaha a'r beic modur Brutale yn mynd tuag at Y Fenni.
Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~26~RS~)

'Sylw i Loegr' yn niweidio democratiaeth
Cymraes yw gobaith mawr Prydain
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?