Pornograffi: Tynnu enwau cwpl oddi ar gofrestr athrawon

Mae cwpl priod wedi cael eu tynnu oddi ar y gofrestr athrawon ar ôl i gannoedd o ddelweddau pornograffig o blant gael eu darganfod ar eu cyfrifiadur cartref.

Roedd David Denis ac Emma Stretton yn gweithio mewn ysgolion i blant ac anghenion arbennig yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.

Does dim awgrym bod y delweddau yn gysylltiedig â'r ysgolion.

Cafodd y ddau eu dal ar ôl ymchwiliad gan Interpol.

Roedd y delweddau wedi eu lawrlwytho o wefan yn Yr Almaen

Oriau mân

Clywodd gwrandawiad deuddydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru fod 103 o ddelweddau o ferched ifanc ar y cyfrifiadur.

Honnir bod Mr Denis wedi gweld y delweddau yn oriau mân y bore ac nad oedd ei wraig wedi gwneud dim.

Cafodd Mr Denis ei dynnu oddi ar y gofrestr am gyfnod amhenodol tra bod ei wraig wedi ei thynnu oddi ar y gofrestr am 12 mis.

Bydd hi'n gorfod dilyn rhaglen ail hyfforddi yn ei hamser ei hun yn canolbwyntio ar warchod plant a defnydd derbyniol o'r we.

Clywodd y gwrandawiad nad oedd 'na gyhuddiadau troseddol wedi eu dwyn wedi ymchwiliad troseddol.

Doedd y cwpl ddim yn bresennol yn y gwrandawiad a doedd 'na ddim cynrychiolaeth chwaith.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.