Cyhoeddi enw wedi damwain farwol

Cyhoeddwyd enw dynes a fu farw mewn damwain ar ffordd yr A470 rhwng Carno a Llanbrynmair.

Roedd Caroline Ann Morris yn 26 oed ac yn dod o ardal Aberystwyth.

Dywed Heddlu Dyfed Powys fod car a bws mini mewn gwrthdrawiad tua 11.10am ddydd Mercher.

Bu farw Ms Morris ac aed â thri o bobl i'r ysbyty.

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu a'i dyweddi:

"Roedd Caroline yn ferch hwyliog a chariadus ac yn byw bywyd i'r eithaf. Roedd ganddi bersonoliaeth bywiog a gwen fendigedig.

"Roedd hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda'i neiaint a'i nithod, ac roedd hi'n fodryb gariadus iawn.

"Bydd hi'n cael ei cholli'n arw gan ei theulu a'i ffrindiau."

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i achos y ddamwain.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu yn Y Drenewydd ar 101.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.