Cwmni pizza: 41 arall i golli eu gwaith yn Sir y Fflint

Paramount Foods Yn gynharach ym mis Hydref clywodd y staff y byddai 76 o swyddi yn cael eu colli

Straeon Perthnasol

Mae 41 arall yn colli'u swyddi mewn ffatri gwneud pizzas yn Sir y Fflint.

Bellach mae 118 o swyddi wedi eu colli ers i Paramount Foods ar Lannau Dyfrdwy gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr bythefnos yn ôl.

Mae'r gweinyddwyr yn parhau i geisio dod o hyd i brynwr ond mae'r undeb wedi dweud eu bod yn ofni am ddyfodol 194 o swyddi eraill.

Paramount Foods yw un o brif gynhyrchwyr pizzas y pedair gwlad.

Mae'n cyflogi 312 o bobl ar Lannau Dyfrdwy a 138 ar eu safle yn Salford, Manceinion.

Yn gynharach y mis hwn clywodd staff y byddai 118 o swyddi yn cael eu colli, 76 ar y safle yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae gwaelod y pizzas yn cael eu pobi yn Salford cyn y cam ola ar y safle yng Nglannau Dyfrdwy.

Colli cytundeb

Collodd y cwmni gytundeb gydag un o'u cyflenwyr mwya' yn ddiweddar, Morrisons.

David Whitehouse a Sarah Bell o Duff & Phelps, Manceinion, yw'r gweinyddwyr ar y cyd.

Dywedodd Mr Whitehouse: "Bu'n rhaid i fwy golli eu swyddi ar safle Glannau Dyfrdwy i sicrhau bod y cwmni'n dal i fasnachu yn y tymor byr wrth inni geisio dod o hyd i brynwr."

Dywedodd Mark Jones, trefnydd rhanbarthol Undeb y Gweithwyr Cyffredinol a Threfol: "Dywedodd y gweinyddwyr yr wythnos diwethaf fod prynwyr posib wedi mynegi diddordeb ...

"Ond ni all y gweinyddwyr redeg ffatri sy'n gwneud colled ac rwy'n poeni y bydd y ffatri'n gorfod cau os na fyddan nhw'n dod o hyd i brynwr cyn bo hir."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.