Mwy i wynebu llifogydd ac yn amlach yn ôl ymchwil

Parc Carafanau Riverside, Llandre Cafwyd difrod sylweddol i garafanau a chartrefi yng Ngheredigion fis Mehefin

Straeon Perthnasol

Fe fydd mwy o bobl yng Nghymru yn wynebu llifogydd ac yn amlach, yn ôl ymchwiliad gan raglen Week In Week Out BBC Cymru.

Yn y rhaglen, mae Syr John Houghton, arbenigwr byd eang ar newid hinsawdd, yn rhybuddio bod patrymau tywydd eithafol yma i aros ac y bydd cynnydd yn y posibilrwydd o lifogydd.

"Bydd y glaw yn dod i lawr yn drymach a'r posibilrwydd y bydd 'na gynnydd yn y posibilrwydd o lifogydd a sychder ar draws y byd erbyn canol y ganrif," meddai yn y rhaglen a fydd yn cael ei darlledu ar BBC Un Cymru nos Fawrth.

"Mae hynny yn ffigwr sylweddol ac mae rhai o fewn llywodraeth yn anfodlon derbyn pa mor ddrwg y gall y sefyllfa fod."

Mae 1 o bob 5, neu 600,000 o bobl Cymru, yn byw o fewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd.

Eleni mae trigolion Ceredigion wedi diodde' o ganlyniad i lifogydd.

Fe wnaeth gwerth wyth mis o law ddisgyn mewn un diwrnod.

'Gwersi i'w dysgu'

Bu'n rhaid i dros 1,000 o bobl adael eu cartrefi ac fe gafodd pobl yn ardal Aberystwyth wybod na fydden nhw'n cael dychwelyd i'w tai am hyd at chwe mis.

Bryd hynny, fe ddywedodd Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, y byddai'n rhaid ystyried pa wersi sydd i'w dysgu.

Talybont Ceredigion Mae nifer yn dal heb ddychwelyn i'w cartrefi yng Ngheredigion

Pedwar mis wedi'r llifogydd dydi Beverley Jones a'i mam June ddim yn ôl yn eu cartref yng Nghapel Bangor.

Dywedodd Ms Jones ei bod yn lwcus i ddod o'i chartref yn fyw.

"Roedd y dŵr yn gwpl o droedfeddi ac roeddwn yn ofnus iawn yn enwedig pan wnes i glywed y wal gynnal yn cwympo.

"Roedd 'na dri diffoddwr tân tu allan yn ceisio agor y drws ac yna wrth i'r drws agor fe ddaeth y dŵr i mewn, roedd yn anhygoel."

Ond tra bod asiantaethau wedi eu canmol am eu hymateb i'r llifogydd diweddar mae 'na gwestiynau gwirioneddol yn cael eu gofyn a ydi strategaeth llifogydd y llywodraeth o gadw pobl yn ddiogel rhag llifogydd yn gweithio.

Mae 'na bryderon ynglŷn â pholisi'r Llywodraeth sy'n ymwneud â nifer y tai ar orlifdiroedd.

'Amheuon'

Un sy'n feirniadol ydi Gareth Davies.

Bu'n rhaid iddo adael ei gartref yn Llanbadarn Fawr yn ardal Aberystwyth yn ystod y llifogydd ym mis Mehefin.

"Mae gen i amheuon am y doethineb o ddatblygu ar orlifdiroedd.

"Rydym wedi gweld y datblygiad ym Mharc y Llyn, bod adeiladu ar orlifdir yn golygu bod angen i'r dŵr fynd i rywle arall."

Mae adroddiad arall yn cael sylw'r rhaglen, adroddiad gan Yr Athro Mark Macklin o Brifysgol Aberystwyth.

Mae'n dweud bod y llifogydd yng ngogledd Ceredigion rai misoedd yn ôl o ganlyniad i orddatblygu yn hytrach na thywydd gwael.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.