Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion i fod 'yn dawelach'
Clywyd sŵn y gerddoriaeth gan bobl sy'n byw ar draws aber Dwyryd yn Nhalsarnau
Mae trefnwyr gŵyl flynyddol sy'n cael ei gynnal ym mhentref Portmeirion yn cymryd camau i leihau sŵn yn dilyn cwynion gan bobl leol.
Chafodd trigolion sy'n byw yn agos i'r safle ddim eu haflonyddu ond clywyd sŵn y gerddoriaeth gan bobl sy'n byw ar draws aber Dwyryd yn Nhalsarnau.
Dywed rheolwyr Portmeirion eu bod wedi dysgu gwersi ac maent yn trefnu cyfarfod â phobl leol i esbonio newidiadau arfaethedig i'r ŵyl.
Eleni oedd y tro cyntaf i'r ŵyl gael ei chynnal a hynny ym mhentref Portmeirion lle cafodd y gyfres enwog The Prisoner ei ffilmio yn ystod yr 1960au.
Pensaernïaeth neo-glasurolOnd mae gan y gyfres deledu dilynwyr ffyddlon ac fe gafodd gŵyl eleni sylw ffafriol yn y wasg.
Oherwydd hynny mae trefnwyr yn dweud eu bod yn ffyddiog y bydd tocynnau yn gwerthu'n gyflym ar gyfer y digwyddiad rhwng Medi 13-15 y flwyddyn nesaf.
Eleni ymhlith yr artistiaid wnaeth berfformio yng Ngŵyl No.6 oedd New Order, Primal Scream a Spiritualized.
Roedd sawl DJ enwog hefyd yn bresennol, gan gynnwys Francois K (Deep Space), Erol Alkan a Mr Scruff (Keep It Unreal).
Cafodd Portmeirion ei ddewis, yn ôl y trefnwyr, oherwydd y bensaernïaeth neo-glasurol yn ogystal â thraethau a gerddi hardd.
Dywed trefnwyr fod trefniadau wedi bod mewn lle i leddfu unrhyw broblemau sŵn ym mhentref Minffordd ger Portmeirion ond nid oedden nhw wedi rhagweld y byddai gymaint o sŵn yn cael ei glywed gan bobl sy'n byw ar draws yr aber yn Nhalsarnau.
'Cyfeiriad y gwynt'Dywedodd Arthur Harris, un o'r bobl gafodd eu heffeithio gan y sŵn: "Dwi ddim yn deall pam fod y cyngor wed caniatau i'r ŵyl gael ei chynnal yn flynyddol a dwi'n methu â deal pam fod yr ŵyl wedi mynd ei blaen tan 3:00am ychwaith," meddai.
"Mae fy nghartref wedi'i ynysu'n dda ac mae gan y tŷ ffenestri dwbl ond roeddwn i'n gallu clywed y nodau bas ac roeddwn i'n methu â mynd i gysgu."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd y byddai'r awdurdod lleol yn ystyried unrhyw gwynion ynghylch yr ŵyl.
Dywedodd rheolwr cyfarwyddwr Portmeirion, Robin Llywelyn fod trefnwyr wedi cymryd camau i ddatrys y broblem sŵn ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol.
"Nid oedd y sŵn yn cyrraedd Minffordd ond ni chafodd y broblem o sŵn yn croesi'r traeth ei hystyried yn ddigonol," meddai.
"Rydym yn credu bod y broblem yn waeth oherwydd cyfeiriad y gwynt y penwythnos hwnnw."
"Fe fyddwn ni'n trefnu cyfarfod gyda'r gymuned yn Nhalsarnau i esbonio sut fyddwn ni'n mynd ati i ddatrys y broblem."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~36~RS~)

OFCOM yn herio Comisiynydd
Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad
Sir yn croesawu'r Urdd
Dau app Cymraeg
Anrhydeddau'r Orsedd
Delio â dementia