Newid llefarwyr Plaid Cymru
Dywedodd Leanne Wood fod ganddi "dîm talentog"
Yn dilyn penderfyniad Bethan Jenkins AC i sefyll o'r neilltu o fainc flaen Plaid Cymru mae arweinydd y Blaid, Leanne Wood, wedi cyhoeddi newidiadau.
Mae Ms Jenkins, AC Gorllewin De Cymru, wedi cael ei gwahardd rhag bod yn aelod o grŵp y Blaid yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi iddi gael ei harestio gan yr heddlu ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol.
Ms Jenkins oedd llefarydd Plaid Cymru ar Dreftadaeth, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon.
Does dim enwau newydd ymhlith y llefarwyr, ond mae cyfrifoldebau'r llefarwyr wedi newid rhywfaint er mwyn ysgwyddo'r baich a adawyd gan ymadawiad Ms Jenkins.
Dyma restr gyflawn o Gabinet y Blaid sy'n cysgodi Llywodraeth Cymru:-
| Cabinet Plaid Cymru | |
|---|---|
|
Leanne Wood |
Arweinydd |
|
Jocelyn Davies |
Rheolwr Busnes, Prif Chwip, Plant a Chydraddoldeb |
|
Rhodri Glyn Thomas |
Ewrop, Llywodraeth Leol, Cymunedau, Tai a Thrafnidiaeth; Comisiynydd |
|
Ieuan Wyn Jones |
Cyllid a'r Cyfansoddiad |
|
Elin Jones |
Iechyd |
|
Simon Thomas |
Addysg, Addysg Uwch, Sgiliau a'r Iaith Gymraeg |
|
Alun Ffred Jones |
Economi, Ynni, Adfywio a Darlledu |
|
Dafydd Elis-Thomas |
Materion Gwledig, Pysgodfeydd a Bwyd |
|
Linsday Whittle |
Gwasanaethau Cymdeithasol, Treftadaeth a Chwaraeon |
|
Llŷr Gruffydd |
Amgylchedd |
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Leanne Wood mae pwrpas yr ad-drefnu yw defnyddio "grŵp hynod dalentog a dawnus o Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd".
Y flaenoriaeth i Blaid Cymru, meddai, yw gwella'r economi a chreu swyddi i bobl yng Nghymru a "byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i wella bywydau pobl Cymru".
Ychwanegodd Leanne Wood:
"Mae gan Blaid Cymru grŵp hynod dalentog a dawnus o Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd sydd wedi ymrwymo i wasanaethu'r cymunedau y maent yn cynrychioli.
"Gwella'r economi a chreu swyddi i bobl yng Nghymru yw canolbwynt ein gwaith, a byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i wella bywydau pobl Cymru."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~38~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Damwain awyren: Un wedi marw
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp