Dicter am hostel i gyn droseddwyr

Moose Hall, pic by John Jenkins, Elli ward councillor Byddai Moose Hall yn gartref i chwech o gyn droseddwyr o dan gynllun Caer Las

Straeon Perthnasol

Mae trigolion stryd yn Llanelli yn paratoi i frwydro yn erbyn cynllun i sefydlu hostel i gyn droseddwyr yno.

Mae Caer Las Cymru am droi'r hen Moose Hall yn y dref i fod yn gartref i chwech o gyn droseddwyr.

Roedd gwrthwynebiad i gynllun arall gan yr elusen o Abertawe y llynedd pan oedden nhw am droi hen gartref nyrsio yn hostel cyn i'r adeilad gael ei brynu.

Cadeirydd cymdeithas trigolion ardal Hen Ffordd y Castell yw Christine Clarke, a dywedodd bod gan yr ardal eisoes ddigon o drafferthion gyda chyffuriau a swyddfa brawf gerllaw.

'Brwydro i'r eithaf'

"Dyw e ddim yn iawn eu bod nhw'n trio gwthio'r math yma o sefydliad arnom ni," meddai. "Mae pobl sy'n byw yn yr ardal yma yn flin iawn ac wedi ypsetio am y peth.

Start Quote

Fydden ni ddim yn gallu byw yma, a fedrwn ni ddim symud oherwydd byddai'r tai ddim yn gwerthu”

End Quote Christine Clarke Cadeirydd cymdeithas trigolion

"Beth bynnag maen nhw ei wneud yn yr ardal yma, mae'n ymddangos yn anghywir i ni. Mae popeth yn cael ei wthio yma a dyw e ddim yn iawn.

"Fe fyddwn ni'n brwydro hyn i'r eithaf. Allwn ni ddim cael mwy o bethau fel hyn yn yr ardal.

"Fydden ni ddim yn gallu byw yma, a fedrwn ni ddim symud oherwydd byddai'r tai ddim yn gwerthu."

Eisoes mae cyfarfod cyhoeddus wedi cael ei gynnal, ac mae'r grŵp wedi cael cymorth gan aelod o bwyllgor a enillodd frwydr debyg y llynedd yn Stryd y Frenhines Fictoria gerllaw.

Bryd hynny daeth tua 300 o bobl i brotestio gyda rhai yn gosod dodrefn yng nghanol y ffordd er mwyn rhwystro cynllun i gartrefu rhwng 12 a 18 o gyn-droseddwyr yn hen gartref nyrsio Santes Elli.

"Fe wnaethon nhw sefydlu pwyllgor i ddelio gyda'r peth, ac maen nhw'n mynd i'n helpu ni gyda'u gwybodaeth," ychwanegodd Ms Clarke.

Cyffuriau

"Mae ein hardal ni yn llai. Mae gennym ddwy stryd gyfochrog gyda lôn fechan rhwng y ddwy ac mae Moose Hall yn cefnu ar y lôn fechan.

"Mae gwerthu cyffuriau yn digwydd yn y lôn yn ddyddiol ac fe allwch chi weld nodwyddau ac ati.

"Mae llawer o bobl hŷn yma ac mae meithrinfa i blant dau ddrws i ffwrdd.

"Mae meddwl am gael cyn droseddwyr yma..... mae yna risg iddyn nhw'u hunain a risg uchel i bobl eraill."

Mae'r Cynghorydd John Jenkins, sy'n gyfrifol am ward Elli, hefyd yn cefnogi pryderon y trigolion.

Dywedodd: "Mae hwn yn lleoliad cwbl anghywir i'r math yma o adnodd.

"Mae'n agos at feithrinfa, yn yr un stryd â chanolfan hamdden Llanelli ac mewn ardal sydd eisoes wedi ysgwyddo'r baich o adnoddau annymunol yn yr ardal.

"Does dim amheuaeth bod angen am y math yma o adnodd, ond ni fyddai'r lleoliad penodol yma er budd i ailsefydlu defnyddwyr yr adnodd.

"Byddwn yn annog Caer Las i weithio gyda'r gymuned leol i ddod o hyd i leoliad addas."

Doedd neb o Caer Las ar gael i wneud sylw ar y mater.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.