Cynllun adfywio gwerth £13 miliwn
Mae arweinwyr busnes a chymunedol wedi croesawu cynllun gwerth £13 miliwn i adfywio canol tref Castell-nedd.
Fe fydd siopau a maes parcio aml lawr yn rhan o'r datblygiad ger neuadd y dref oherwydd arian Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.
Daw'r arian o Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd gyda'r nod o hybu a chefnogi cynlluniau trefol.
Bydd y datblygiad yn creu safle manwerthu 110,000 o droedfeddi sgwâr fydd wedi ei gysylltu gyda chanol y dref yn Wind Street.
Fe fydd y gwaith yn dechrau yn y flwyddyn newydd.
'Mwy o fygythiad'Dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, fod y cyhoeddiad yn newyddion da i Gastell-nedd.
"Canol trefi yw calon ein cymunedau, gan ddarparu cyfleoedd am swyddi a hamdden a sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn lleol.
"Ond maen nhw o dan fwy o fygythiad oherwydd canolfannau siopa y tu allan i'r dre a siopa ar-lein.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu canol trefi i addasu i'r bygythiadau.
"Ac mae cynlluniau fel hwn, y mae disgwyl iddo greu nifer fawr o swyddi newydd, mor bwysig yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni."
Ychwanegodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart: "Bydd y buddsoddiad hwn yn trawsnewid canol Castell-nedd, yn cefnogi busnesau canol y dref ac yn diogelu swyddi lleol drwy ddenu mwy o siopwyr ac ymwelwyr."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~54~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
Cyhoeddi enw'r milwr gafodd ei ladd
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith