Cynhadledd ar gyfer busnesau a threfnwyr Eisteddfod 2013

Gallai ardal elwa'n economaidd hyd at £8 miliwn oherwydd yr Eisteddfod.

Straeon Perthnasol

Mae busnesau yn Sir Ddinbych yn cael cyfle i wybod am y gwasanaethau y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol am eu prynu a'u llogi cyn Prifwyl 2013.

Gyda llai na blwyddyn cyn Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau mae'r Eisteddfod, Cyngor Sir Ddinbych a Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr Llywodraeth Cymru wedi trefnu digwyddiad ar gyfer cwmnïau lleol.

Mae'r sesiwn Cwrdd â'r Prynwyr yn Technium OPTiC, Parc Busnes Llanelwy, am 1pm ddydd Iau.

Yn ôl Elfed Roberts, prif weithredwr yr Eisteddfod, y bwriad yw rhoi cyfle i fasnachwyr lleol ddysgu mwy am anghenion y Brifwyl.

'Cystadleuol'

"Rydym angen pob mathau o offer, gwasanaethau a chynnyrch wrth i'r gwaith o ddatblygu'r Maes fynd rhagddo," meddai.

"Ac rydym bob amser yn awyddus i glywed gan fusnesau lleol sy'n gallu cynnig y gwasanaethau i ni am brisiau cystadleuol.

"Yn naturiol, mae'n rhaid i'r Eisteddfod chwilio am y prisiau mwyaf cystadleuol bob tro ac mae digwyddiad fel hwn yn gyfle i bobl fusnes weld pa waith fydd ar gael."

Dros y blynyddoedd diwethaf, meddai, mae arolygon ymchwil annibynnol wedi dangos bod ardal yn gallu elwa'n economaidd hyd at £8 miliwn oherwydd yr Eisteddfod.

"Er bod cyfran o'r arian yn mynd i'r sector dwristiaeth a lletygarwch, rydym hefyd yn gwario cyfran dda ar nwyddau a gwasanaethau'n lleol." meddai.

Cynhelir y Brifwyl ar dir Fferm Kilford ar gyrion tref Dinbych rhwng Awst 2 a 10 y flwyddyn nesaf.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.