Cwpan Her Amlin: Wasps 38-25 Dreigiau Gwent
Clo'r Dreigiau Robert Sidoli ac asgellwr Wasps Tom Varndell yn herio'i gilydd ym Mharc Adams
Roedd pedwar cais Wasps yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Her Amlin yn sicrhau pwynt bonws i'r tîm cartref wrth iddyn nhw groesawu Dreigiau Gwent i Barc Adams.
Roedd perfformiad y Cymro Nicky Robinson yn wych i'r tîm cartref.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen gyda chais gwych gan Adam Hughes cyn i Joe Dixon ychwanegu ail gais iddyn nhw.
Ond rhwng y ddau gais fe wnaeth Jack Wallace, Fabio Staibano, Billy Vunipola a Joe Simpson groesi i Wasps.
Ciciodd Robinson yn llwyddiannus dair o'r ceisiau a llwyddodd gyda phedair cic gosb.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~24~RS~)

Ysbyty Morgannwg: Lansio ymgyrch
Ymosodiad: Cadarnhad mai milwr fu farw
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith
Cân y babis