Yr heddlu yn parhau i chwilio am April Jones
Cafodd April ei gweld ddiwethaf tu allan i'w chartref ar Hydref 1
Yn ardal Machynlleth mae'r heddlu'n dweud eu bod nhw'n parhau i chwilio am y ferch bum mlwydd oed April Jones.
Cafodd April ei gweld ddiwethaf yn mynd i mewn i gerbyd bythefnos yn ôl.
Roedd hi'n chwarae tu allan i'w chartref ar stad Bryn-y-Gog tua 7pm ar Hydref 1.
Mae swyddogion yn dweud eu bod nhw bron â chwblhau'r gwaith o chwilio yn y dref.
Fe fydd timau nawr yn archwilio'r ardaloedd o amgylch Machynlleth.
Mae dyn 46 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio a chipio plentyn.
Cafodd Mark Bridger ei gadw yn y ddalfa tan y bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron fis Ionawr.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~59~RS~)

Colli gwasanaethau arbenigol?
Dyn wedi ei ladd mewn ymosodiad 'terfysgol'
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith
Cân y babis