Pennaeth newydd i BBC Cymru yn y gogledd
Y newyddiadurwraig Bethan Williams sydd wedi ei phenodi yn Bennaeth newydd BBC Cymru yng ngogledd Cymru.
Ers 2004 mae hi wedi bod yn Olygydd Newyddion y Gogledd.
Mae hi'n olynu Wendy Rees sydd wedi ei phenodi yn Uwchbartner Busnes Adnoddau Dynol y BBC.
Bydd Ms Williams yn gyfrifol am adeiladau'r BBC yn y gogledd a staff.
"Does dim dwywaith bod gan Bethan y profiad a'r gallu, fel y dangosodd yn ddiweddar gyda'i rheolaeth arbennig o staff a gwasanaethau yn y gogledd yn ystod Taith y Fflam Olympaidd," meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru.
"Mae'r swydd hon yn allweddol i feithrin perthnasau pwysig yn y gogledd yn ogystal â sicrhau parhad i lwyddiant ein timau cynhyrchu ym Mangor a Wrecsam."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~02~RS~)

Nigel Evans AS wedi ei arestio eto
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?