Rheithfarn o farwolaeth trwy ddamwain
Cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth trwy ddamwain yn achos merch fach bump oed gafodd ei gwasgu gan glwyd drydanol ger ei chartref ym Mhen-y-bont yng Ngorffennaf 2010.
Fe glywodd y rheithgor nad oedd y glwyd y bu Karolina Golabek yn chwarae arni, wedi ei gosod yn iawn ac nad oedd y cyfarpar diogelwch wedi eu harchwilio.
Roedd teulu Karolina newydd symud i Ben-y-bontar Ogwr o Wlad Pwyl.
Clywodd y rheithgor i'w thad weld am y tro olaf am 4pm y diwrnod tyngedfenol.
Cafodd ei hachub gan un o drigolion flatiau Brook Court hanner awr yn ddiweddarach.
Aed a hi i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle bu farw.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~27~RS~)

Rhybudd am doriadau 'hunllefus'
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
'Chwalu'r myth'
Ar flaen eich bysedd
Hyrwyddo Maes B