Gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yn achosi oedi

Map o'r ardal

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7:30am fore Mawrth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar yr A470.

Roedd y tri cherbyd - car Audi du, car Ford Fiesta gwyn a char Vauxhall Insignia gwyn - yn teithio i gyfeiriad y de rhwng yr A4054 (Cyfnewidfa Glan Bâd) a'r A468 (Cyfnewidfa Nantgarw).

Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar y safle, a bu'n rhaid iddyn nhw dorri un person yn rhydd o'i gerbyd.

Bu'n rhaid i'r person yna gael triniaeth yn yr ysbyty.

Dywed yr heddlu bod y ffordd bellach wedi ailagor i'r ddau gyfeiriad, ond fe achosodd y digwyddiad dagfeydd difrifol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.