Dyn yn pledio'n euog wedi damwain trên

Y trên yn dilyn y ddamwain fis Rhagfyr diwetha' Y trên yn dilyn y ddamwain fis Rhagfyr diwetha'

Straeon Perthnasol

Mae dyn 49 oed wedi pledio'n euog i beryglu bywydau teithwyr trên adeg damwain ar gyrion Hendy-gwyn ar Daf fis Rhagfyr y llynedd.

Fe gyflwynodd Oswald Huw Davies ei ble ar sail esgeulustod.

Mewn gwrandawiad byr yn Llys y Goron Abertawe, amlinellodd bargyfreithwyr ar ran Mr Davies rhai o'r amgylchiadau lliniarol yn ymwneud â'r digwyddiad.

Roedd y rhain yn cynnwys adroddiad ar y ddamwain oedd yn cyfeirio at y ffaith nad oedd modd gweld y groesfan yn glir gan fod nifer o gerbydau Network Rail wedi'u parcio gerllaw; doedd y goleuadau wrth y groesfan ddim wedi'u lleoli'n gywir; welodd Mr Davies ddim o'r goleuadau ac roedd wedi defnyddio'r groesfan sawl gwaith cyn sylweddoli bod 'na gyfyngiadau'n cyfeirio at ei gerbyd.

Roedd y ddamwain rhwng lori oedd yn cludo dau drelar gwair a'r trên ar groesfan Henllan Amgoed ar Ragfyr 19, 2011.

Roedd bron i 60 o deithwyr ar y trên.

Roedd angen triniaeth ysbyty ar bump ohonyn nhw.

Cafodd Mr Davies ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu ar ddydd Gwener, Hydref 26.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.