Canoli gwasanaethau iechyd i'w canoli mewn pedwar neu bum ysbyty yn y de

Logo Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Un o'r pum bwrdd sy'n trafod yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Straeon Perthnasol

Mae rheolwyr Gwasanaeth Iechyd yn ne Cymru a Phowys wedi amlinellu argymhellion sy'n golygu canoli rhai triniaethau arbenigol mewn pedwar neu bum ysbyty.

Dywedodd y pum bwrdd iechyd nad oedd y sefyllfa bresennol, lle mae arbenigedd ar gael mewn saith ysbyty, yn gynaliadwy.

Gan fod gwasanaethau wedi "eu gwasgaru'n rhy denau" dros yr ardaloedd, meddai'r byrddau iechyd, dylen nhw gael eu canoli.

Yn ôl rhai, bydd hyn yn arwain at "newidiadau sylweddol" yn y gofal sy'n cael ei gynnig yn ysbytai de Cymru a Phowys.

Dywedodd y byrddau eu bod yn gobeithio y byddai'r newidiadau'n dechrau'r gwanwyn nesa ar ôl cyfnod ymgynghori gyda'r cyhoedd.

Mae'r ad-drefnu'n effeithio ar ysbytai rhwng Casnewydd ac Abertawe ac ym Mhowys.

Yn ôl y byrddau, rhaid i wasanaethau newid er mwyn gwella safon gofal yn ogystal â mynd i'r afael â phroblemau fel prinder meddygon.

Fe fydd y newidiadau'n effeithio ar wasanaeth obstetreg, newydd-anedig, gwasanaeth mewnol pediatrig a rhai gwasanaethau adrannau brys.

Pedwar safle

Byddai'r rhain yn cael eu canoli mewn pedwar safle.

Start Quote

Mae gwasanaethau wedi eu gwasgaru'n rhy denau dros ormod o ysbytai.”

End Quote Dr Bruce Ferguson Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Fe fydd un safle yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac un arall yn Abertawe.

Mae 'na gynlluniau ar gyfer canolfan gofal difrifol iawn yn Llanfrechfa ger Cwmbrân.

Bydd y pedwerydd neu bumed safle naill ai yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr, Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont neu Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisaint.

Dywedodd cyfarwyddwyr meddygol y byrddau nad oedden nhw'n ffafrio safle.

Bydd safle arall ar gyfer uned trawma sylweddol fydd yn rhoi triniaeth i'r achosion mwya' brys sy'n cael eu trin ar hyn o bryd yn Abertawe a Chaerdydd.

Pwysleisiodd Dr Bruce Ferguson, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, nad oedd yr ad-drefnu er mwyn gwneud arbedion ariannol.

"Y neges i ni, glinigwyr, yw nad yw'r sefyllfa bresennol yn opsiwn ar gyfer y dyfodol.

"Dydi'r patrwm presennol ddim yn gynaliadwy."

Wedi i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi dywedodd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Cymru, bod rhaid i'r gwasanaeth iechyd wneud gwelliannau sylweddol.

"Mae'r byrddau iechyd wedi gweithio yn galed dros y misoedd diwethaf i gasglu barn cynifer ar y modd y dylai'r gwasanaethau ateb gofynion y dyfodol.

"Mae'r cynlluniau yn edrych ar wasanaethau arbenigol ac mae'n fwriad o hyd gan y gwasanaeth iechyd i gynnig y mwyafrif o ofal y tu allan i ysbytai a hynny yn agos at gartrefi'r cleifion.

"Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar ddyfodol y gwasanaeth iechyd yn y de."

Dadleuol

Mae 'na ad-drefnu'n digwydd ym Myrddau Iechyd Hywel Dda a Betsi Cadwaladr.

Mae nifer o'r cynigion wedi bod yn ddadleuol ac mae nifer o brotestiadau wedi bod wrth i'r byrddau gynnal cyfarfodydd cyhoeddus.

Fe fydd rhaid aros tan ddiwedd y flwyddyn cyn y bydd cynlluniau manwl ar gyfer y de a Phowys yn cael eu cyhoeddi.

Mae'r byrddau wedi mynnu y bydd pob ysbyty yn ne Cymru yn cadw'r mwyafrif o wasanaethau y maen nhw'n ei gynnig.

Dywedon nhw y dylai'r cyhoedd gael dweud eu dweud cyn y bydd y cynigion terfynol yn cael eu llunio.

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, y bydd y cynlluniau yma yn arwain at israddio ysbytai, rhywbeth y mae'r gweinidog iechyd wedi addo na fyddai'n digwydd.

"Ddylai neb gael eu gorfodi i deithio ar gyfer triniaeth i achub eu bywyd, fe ddylai gwasanaethau iechyd lleol fod ar gael yn hawdd ac o fewn cyrraedd i'r rhai sydd ei angen.

"Buddsoddiad pellach yw'r ateb nid cau ac israddio."

Datgelodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, bryder am effaith canoli gwasanaethau mewn pedwar neu bum lleoliad allweddol yn ne Cymru a'i bod yn annog pawb i gymryd rhan yn y broses ymgynghori.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


  • Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr UrddYn 'hapus' gyda'i MBE

    Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cynta' ers derbyn MBE, prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn 'hapus iawn'.


  • Bae Rhosili Mwy o draethau'n cyrraedd y safon

    Mae'r Gymdeithas Gadwraeth Forwrol yn dweud bod 71.7% o draethau Cymru wedi cyrraedd y safon gorau posib o ran cyflwr y dŵr.


  • Dolffiniaid'Y cysylltiad agos'

    Dathlu'r cysylltiad rhwng Ceredigion a dolffiniaid trwynbwl ar ddiwrnod arbennig.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.